HEN WLAD EIN PLANT

Cyflog
£4980
Location
Ledled y wlad
Oriau
Fixed term
Closing date
09.07.2021
Profile picture for user Alice Rush

Postiwyd gan: Alice Rush

Dyddiad: 29 June 2021

Rhaglen o breswyliadau hyper-leol

Mae Hen wlad ein Plant yn gydweithrediad rhwng Gentle/Radical, National Theatre Wales a Cyfoeth Naturiol Cymru. Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi tîm o artistiaid o bob rhan o Gymru ac ar draws disgyblaethau creadigol i arbrofi gyda chyfres o breswyliadau ‘hyper-leol’. Rydym am i’r preswyliadau hyn helpu i lywio sut rydym yn datblygu polisi amgylcheddol yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf.

Pam y prosiect hwn?

Rydym yn gofyn i ni’n hunain:  Sut allwn ni ddychmygu cymdeithas deg a chynaliadwy sy’n blaenoriaethu systemau cyfiawn, cymunedau wedi gwella a chydbwyso â’n hamgylchedd naturiol, gan ddarparu bywyd cyfartal a gwell i bawb? Sut allai hyn edrych yn y cymunedau lle’r ydym yn byw? A sut y gall artistiaid stiwardio rhai o’r cwestiynau a phosibiliadau brys hyn? 

Beth yw preswyliadau hyper-leol?

Eich stepen eich hun ddylai man dechrau eich preswyliad fod. Rydym am i chi ddiffinio telerau eich archwiliad eich hun, y lle rydych chi am ei gwmpasu: cartref, stepen drws, gardd ffrynt, eich stryd, strydoedd cyfagos, yr olygfa o’ch ffenestr, lleoliad cyfagos, eich tref neu bentref, neu eich dalgylch.

Mae’r preswyliadau hyper-leol hyn yn gyfleoedd i ymchwilio i’ch ardal o ddewis ac ymgysylltu â’r bobl sy’n byw ynddi. Mae’n gyfle i arbrofi, cymryd risgiau creadigol ac archwilio eich ymarfer yng nghyd-destun y lleoliad rydych chi’n ei adnabod. 

Byddwch yn gweithio’n hyper-leol tra’n cysylltu â’r artistiaid eraill ar breswyliadau ledled Cymru, gan gyfnewid syniadau, ymarfer a ffyrdd o weithio. Cyn i chi ddechrau ar y preswyliadau, bydd Gentle/Radical yn curadu cyfres o leoedd a ddelir i ysbrydoli, gwreiddio a chysylltu’r garfan, yn ogystal ag archwilio moeseg a chyfrifoldebau cyflawni gwaith ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Byddwch hefyd yn cael eich paru â mentor i ddatblygu eich preswyliad a byddwch yn cael cyswllt o fewn NTW a CNC i helpu i gyfeirio eich ymholiad.  

Pwy all wneud cais?

Rydym am gefnogi saith artist o Gymru sydd â diddordeb mewn ymchwilio i’w hamgylchedd hyper-leol ac ymgysylltu’n weithredol â’u cymuned wrth ddychmygu eu dyfodol o fewn terfynau ein planed. Artistiaid, awduron, cyfarwyddwyr, coreograffwyr, dylunwyr, symudwyr, gwneuthurwyr, gweithwyr creadigol digidol– mae croeso i bob disgyblaeth o’r celfyddydau.   Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan artistiaid sydd wedi’u tangynrychioli o fewn y sector diwylliannol, i gynnwys artistiaid Du a rhai nad ydynt yn Ddu, artistiaid anabl, artistiaid niwroamrywiaethol, artistiaid LGBTQ+, yn ogystal â’r rhai y mae eu bywydau’n croestorri ar draws yr hunaniaethau ymylol hyn a hunaniaethau ymylol eraill.

Rhaid i’r holl weithwyr proffesiynol sy’n cymryd rhan:

  • fod yn 18 mlwydd oed a throsodd;
  • beidio â bod yn rhan o addysg amser llawn ar hyn o bryd; a
  • bod wedi eu lleoli yng Nghymru 

Beth mae’r preswyliadau hyn yn ei ofyn i chi? 

Dull: Hoffem glywed sut y byddech yn mynd i’r afael â’r preswyliad penodol hwn a sut y byddai’n herio eich ymarfer. Hoffem weld dechrau syniad sy’n mynd i’r afael â phryderon lleol a byd-eang tra’n cynnwys pobl yn y broses.

Eich amser: Disgwyliwn y bydd y rhan fwyaf o breswyliadau yn para am 20 diwrnod, wedi’u gwasgaru dros ychydig fisoedd (Gorffennaf i Hydref 2021). Dyma syniad o sut y gallai hyn edrych: 

  • Gorffennaf: 2 ddiwrnod 
  • Awst: 3 diwrnod 
  • Medi a Hydref: 14 diwrnod
  • Tachwedd: 1 diwrnod 

Rhannu eich canfyddiadau: Byddwn yn gweithio gyda chi i ddylunio eich preswyliad a hefyd yn cefnogi sut y gallwch rannu eich ymchwil gyda ni a grŵp ehangach o bobl. Gellir cyflwyno canlyniad eich ymholiad creadigol ar unrhyw ffurf o’ch dewis ond rydym yn disgwyl gweld dogfennaeth o’r broses greadigol a myfyrio. 

Pam y preswyliadau hyn a pham nawr?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru newydd ryddhau’r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol ar gyfer 2020. Rydym yn defnyddio’r dystiolaeth hon i ysgogi sgwrs genedlaethol am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol a datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol yng Nghymru yn y tymor hir. Mae’r preswyliadau artistiaid hyn yn rhedeg ochr yn ochr â’r gwaith hwn a byddant yn llywio’r weledigaeth hon.

Dyma wybodaeth ddefnyddiol am flaenoriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich ardal: De-ddwyrain CymruCanol De CymruDe Orllewin CymruCanolbarth CymruGogledd Ddwyrain CymruGogledd Orllewin Cymru neu’r arfordir cyfan

Beth sydd ar gael?

  • Cyllideb 

Bydd yr artistiaid sy’n cael eu dewis yn derbyn ffi o £4,980 am 20 diwrnod sy’n cael eu treulio ar y preswyliad (pro rata o £249/dydd). Byddwn hefyd yn sicrhau bod cyllideb fach ar gael fesul artist ar gyfer deunyddiau, gwneuthuriad ac ati a byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu sut i’w ddyrannu.

  • Cymorth a Chyngor 

Byddwch yn derbyn cymorth artistig a chymorth cynhyrchu gan National Theatre Wales, yn ogystal â hyfforddiant a chefnogaeth gan Gentle/Radical ar weithio’n foesegol ac mewn ffordd nad yw’n alldynnol o fewn cyd-destunau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol ac yn hyper-leol. Bydd gennych hefyd fynediad at wybodaeth, pobl a rhwydweithiau Cyfoeth Naturiol Cymru.

Pryd fydd preswyliadau’n digwydd?

Cynhelir y preswyliadau rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Hydref 2021, a bydd sesiynau rhannu’n cael eu cynnal ddechrau mis Tachwedd.

  • Dyddiadau i’ch dyddiadur

Llun 26 a Mawrth 27 Gorffennaf 2021 (9.30am – 5pm) – Cyfres o sesiynau rhagarweiniol ar-lein 

Beth yw’r broses ymgeisio?

  • I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais a’i hanfon at submissions@nationaltheatrewales.org  
  • Ar y ffurflen, byddwn yn gofyn am 1 ochr o destun A4 neu 3 munud o sain / fideo yn dweud wrthym amdanoch chi, eich ymarfer a sut y bydd eich dull ar gyfer y preswyliad hwn yn archwilio’r man lle rydych yn byw, y bobl a’r cymunedau sy’n byw yno, a dyfodol y perthnasau hyn. 
  • Gofynnwch hefyd i chi lenwi ffurflen Cyfle Cyfartal.
  • Byddwn yn ymateb i’ch e-bost i roi gwybod i chi unwaith y bydd wedi’i dderbyn yn ddiogel.
  • Ar ôl i’r dyddiad cau fynd heibio, byddwn yn ei anfon at banel sy’n cynnwys staff a gweithwyr llawrydd NTW, G/R a CNC. Efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi os oes unrhyw gwestiynau rydyn ni angen i chi eu hegluro cyn ei rhannu.
  • Os ydych ar y rhestr fer, byddwn yn trefnu i chi gwrdd â chynrychiolwyr y panel fel y gallwch ddweud mwy wrthym am eich cynnig, ym mha ffordd bynnag rydych chi’n meddwl sy’n dangos orau beth hoffech chi ei wneud. Ar y pwynt hwn, byddem hefyd am i chi nodi pa gymuned neu bobl yr hoffech weithio gyda nhw a sut.

Pryd mae’r dyddiad cau?

  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw hanner dydd ddydd Gwener 9 Gorffennaf 2021
  • Byddwn yn trefnu cyfarfodydd 30 munud (ar-lein) gydag artistiaid ar y rhestr fer ar 19 a 20 Gorffennaf 2021.
  • Bydd artistiaid llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 21 Gorffennaf 2021.
  • Os byddwch chi’n cael eich dewis, bydd gofyn i chi fynychu cyfres o sesiynau rhagarweiniol ar-lein ar 26 a 27 Gorffennaf 2021 (9.30am – 5pm). Dylech gadw’r dyddiau hyn yn rhydd.

Cysylltu â ni:

Os ydych am drafod syniadau neu ofyn cwestiwn i ni, cysylltwch â ni! joseph.roberts@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gyda chefnogaeth ariannu Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.