Y Sioe 2022
Is-Gynhyrchydd brwdfrydig? Creadigol a threfnus? Mae cyfle cyffrous i Is-Gynhyrchydd ymuno â chwmniau teledu Boom Cymru/Slam Media sy’n cynhyrchu darllediadau y Sioe Frenhinol i S4C.
Cyfnod: Mehefin 6ed - Gorffennaf 22ain.
Beth fydda i’n gwneud?
- Cefnogi’r Cynhyrchydd i drefnu cynnwys a chyfranwyr ar gyfer rhaglenni uchafbwyntiau’r nos
- Cyfrannu’n olygyddol ac ymarferol at gynnwys y rhaglenni
- Pwynt cyswllt i gyfranwyr a chriwiau yn ystod wythnos y Sioe
Y person delfrydol?
- Profiad o weithio fel ymchwilydd neu is-gynhyrchydd teledu
- Unigolyn creadigol ac ymarferol gyda’r gallu i gyd-bwyso gofynion amrywiol
- Sgiliau ymchwilio, trefnu, amserlennu a chyfathrebu da
- Yn gallu siarad Cymraeg
- Yn hapus i weithio fel aelod o dîm ond hefyd yn annibynnol
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd gyda’r posibilrwydd o weithio gartref ar adegau.Ar leoliad wythnos Y Sioe Frenhinol. Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol at hr@boomcymru.co.uk erbyn 09:00yb ar 14.4.22
Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a'i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru ( https://www.boomcymru.co.uk/polisiau-preifatrwydd-boom-cymru/)
ac Hysbysiad Preifatrwydd Slam Media (http://www.slam-media.co.uk/polisi-preifatrwydd/?lang=cy)
Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach.