Gydlynydd Ymgysylltu

Cyflog
£24,500 (pro rata)
Location
Barri, De Cymru
Oriau
Part time
Closing date
24.10.2025

Postiwyd gan: Memo_Arts_Centre

Dyddiad: 14 October 2025

Cyfnod: Rhan-amser parhaol (25 awr yr wythnos) diwrnodau’r wythnos ac amseroedd hyblyg i’w cytuno arnynt.
Lleoliad Gwaith: Swyddfa Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri
Cyflog: £24,500 (pro-rata)
Dyddiad Cau: 10yb Dydd Gwener 24 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Iau 30 Hydref 2025

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Memo (MAC) wedi’i lleoli yng nghanol y Barri, dyma’r lleoliad amlgelfyddydau mwyaf ym Mro Morgannwg, ac mae’n cynnwys theatr, sinema, stiwdio a mannau amrywiol, ynghyd â bariau ac ardaloedd cymdeithasol.

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri yn chwilio am unigolyn marchnata creadigol a hyblyg sydd â phrofiad o weithio i ddarparu hysbysebu, y cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys i ddod yn Gydlynydd Ymgysylltu â Marchnata i ni.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu sgiliau hanfodol i gefnogi’r ymgyrchoedd marchnata effeithiol sy’n ysgogi gwerthu tocynnau a chynhyrchu refeniw Canolfan y Celfyddydau Memo.

Bydd yn cyflwyno ymgyrchoedd marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd i gefnogi rhaglen y lleoliad a’r brand.

Bydd y swydd hon yn gweithredu cynlluniau marchnata arloesol i godi proffil ac ôl troed y Lleoliad yn y cyfryngau a’i weithgareddau trwy dechnegau marchnata digidol dyfeisgar a chyfleoedd hysbysebu traddodiadol.

Mae hon yn swydd allweddol o ran darparu strategaeth farchnata a thwf hirdymor wrth sefydlu’r lleoliad yn y gymuned leol.

Mae angen sgiliau trefnu rhagorol, ynghyd ag agwedd ragweithiol, sgiliau cyfathrebu da a llygaid craff am fanylion.

Dylai ymgeiswyr fod yn barod i ddangos diddordeb ac angerdd am gyfathrebu, y celfyddydau perfformio ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mwy: https://memoartscentre.co.uk/job-opportunities/
Sut i wneud cais: Oni bai ein bod wedi cytuno ar fformat arall ar gyfer y cais gyda chi, dylech e-bostio eich CV a datganiad personol yn amlinellu pryd yr ydych chi ar gael ac yn dangos yn glir sut mae’ch profiad a’ch sgiliau yn bodloni’r lleiafswm gofynion yn y disgrifiad swydd a manyleb y person i: recruitment@memoartscentre.co.uk
Dyddiad cau: 24.10.25

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.