Gwobr Gerddoriaeth Gymreig: Carwyn Ellis

Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn wobr flynyddol i ddathlu’r gerddoriaeth newydd orau a wneir yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd. I ddathlu’r gwobrau eleni, buom yn siarad â rhai o’r artistiaid o Gaerdydd sydd ar y rhestr fer i’w holi am eu cerddoriaeth a’u profiad o fod yn greadigol yn y ddinas.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 25 October 2022

Nesaf, cawsom sgwrs â'r cerddor, cyfansoddwr, trefnydd, aml-offerynydd a chynhyrchydd recordiau, Carwyn Ellis. Mae ei albwm Yn Rio wedi cael ei enwebu ar gyfer y wobr eleni.

Carwyn Ellis image cropped

Llongyfarchiadau mawr ar gael eich enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig! Allwch chi ddweud wrthym am eich albwm sydd ar y rhestr fer? 

Cafodd fy albwm, 'Yn Rio', ei recordio (yn bennaf) mewn perfformiad gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ym mis Mawrth 2021, ac fe'i rhyddhawyd ym mis Hydref 2021. Mae’r gerddoriaeth a’r stori sydd ynddynt wedi’u hysbrydoli gan fy amser ym Mrasil, ac yn Rio de Janeiro yn arbennig. Mae'n gyfarfod traws-ddiwylliannol, aml-genedlaethol o feddyliau a cherddorion, i gyd â churiad trofannol.

Sut deimlad yw cael eich enwebu? 

Mae’n anrhydedd. Mae bob amser yn braf cael cydnabyddiaeth i'ch gwaith gan eraill.

Pa effaith mae bod yng Nghaerdydd wedi'i chael ar eich gwaith?

Rwyf wedi ymgartrefu yma ers 15 mlynedd bellach a dyma fy nghartref. O ran gwaith, mae wedi rhoi sylfaen ardderchog i mi fynd i rywle arall i weithio – boed yn Rio de Janeiro, Llundain neu Gaernarfon. Dyma'r prif lefydd dwi wedi recordio cerddoriaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf yn y 12 mis nesaf? 

Mwy o brosiectau, mwy o gerddoriaeth. Felly dim newid yno! Ond byddai mwy o deithio yn braf – newidiodd y byd yn 2020 a dim ond yn ddiweddar rydw i wedi dod yn gerddorol symudol eto.

Dywedwch wrthym am unrhyw gigs sydd i ddod... 

Dwi newydd ddod yn ôl o dymor gigs, wedi chwarae sioeau gyda Rio 18 (ac un gyda’r gerddorfa yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd) ac Edwyn Collins yn ystod yr haf. Does gen i ddim cyngherddau wedi'u cynllunio tan y flwyddyn nesaf nawr, a gall unrhyw un ddyfalu beth yn union fyddan nhw!

Sut gall pobl ddysgu mwy amdanoch chi a'ch cerddoriaeth? 

Os hoffech chi gael gwybod amdanaf i, yna byddai fy Wikipedia, fy ngwefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn fannau da i ddechrau. Ar gyfer fy ngherddoriaeth, byddai prynu recordiau/CDs neu ffrydio ar y llwyfannau arferol yn ffordd dda.

 

Mwy am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 

Bydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal ar 26 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Llais 2022. Dysgwch fwy am yr ŵyl ac enwebeion eraill.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event