Rydyn ni’n chwilio am Wneuthurwr Ffilm/Golygydd sydd â thros ddwy flynedd o brofiad proffesiynol i ymuno â'n tîm. Byddwch chi'n gweithio ar brosiectau o'r dechrau i’r diwedd yn ein tîm bach ond angerddol. Rydyn ni’n gweithio'n bennaf ar greu fideos byr, sy'n addas i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein, felly byddai profiad o greu fideos byrrach, llai na 3 munud, sy'n cael effaith, yn fantais fawr. Byddai'r ymgeisydd delfrydol yn ddysgwr hunangyfeiriedig, sy’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau camera a golygu ochr yn ochr ag arweiniad a phrofiad ein tîm presennol.
Sut i ymgeisio?
Anfonwch eich CV, llythyr eglurhaol byr, a dolen i'ch portffolio at joe@clearthefog.digital. Yn eich llythyr eglurhaol, soniwch am brosiect rydych chi'n falch ohono a pham y gwnaeth apelio atoch, yn ogystal â pham hoffech chi weithio i ni yn Clear The Fog.
Dyddiad cau ymgeisio: 24 Hydref 2025