Gall Tîm Profiad Gwaith Prifysgol Caerdydd eich cefnogi gydag amrywiaeth o gyfleoedd. Eu dau gyfle mwyaf poblogaidd yw lleoliadau “Dysgu a gwneud” ac Interniaethau â thâl, y ddau ohonynt yn anelu at bontio’r bwlch rhwng astudiaeth academaidd a phrofiad galwedigaethol. Mae'r cyfleoedd hyn yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso'r theori a'r sgiliau a enillwyd yn ystod eu gradd i waith ymarferol a phroffesiynol.
Mae ein profiad gyda Thîm Profiad Gwaith Prifysgol Caerdydd wedi bod yn hynod gadarnhaol a gwerth chweil. Rydym nid yn unig wedi gallu cefnogi myfyriwr I gael profiad proffesiynol gwerthfawr, ond mae ein tîm hefyd wedi elwa o’r safbwyntiau ffres a’r brwdfrydedd a ddaeth gyda hi gan y myfyriwr. Mae’n drefniant gwirioneddol fuddiol i’r ddwy ochr yr edrychwn ymlaen at barhau yn y dyfodol.
Katie Lowe - Rheolwr Masnachol, Learna Ltd.
Mae'r rhaglen Mentora Gyrfa hefyd yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gael gwybodaeth, cyngor a mewnwelediad i'w sector dewisol trwy gael eu paru â gweithiwr proffesiynol yn y diwydiant hwnnw.
Mae'r cyfleoedd hyn yn cynorthwyo'r myfyrwyr i ennill sgiliau, profiad a gwybodaeth amhrisiadwy o'r byd gwaith. Ar yr un pryd, mae cyflogwyr yn ennill persbectif ffres myfyrwyr a gallant ddatblygu piblinell dalent gref ar gyfer dyfodol eu diwydiant.
Mae’n bwysig cael mynediad at gronfa o dalent gudd a chreu llif o dalent ar gyfer y dyfodol. Mae’n bwysig ein bod yn cyflwyno myfyrwyr i’n sector a chyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth am y gwahanol gyfleoedd y gallwn eu cynnig iddynt. Yr ydym am ymgysylltu â phrifysgolion lleol a’r gymuned, a dyma’r ffordd berffaith o wneud hynny.
Samantha Nicholls, Arweinydd Recriwtio, Linc Cymru
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. I gael gwybod mwy, neu am gyfarfod rhagarweiniol, anfonwch e-bost i workexperience@cardiff.ac.uk.