Joe, beth wnaeth i chi ystyried llogi myfyriwr profiad gwaith yn gyntaf?
Joe: Doedden ni erioed wedi cael myfyriwr profiad gwaith ac roedden ni wastad wedi eisiau. Roedd yn amser da gan fod angen bach o help arnon ni gyda gwahanol bethau. Gwelais yr erthygl trwy gylchlythyr Caerdydd Creadigol, a meddyliais y byddai’n wych cael rhywun yma.
Isabella, beth feddyliaist ti pan welaist ti’r rôl yn Clear The Fog yn cael ei hysbysebu?
Isabella: Pan o’n i'n edrych ar y gwahanol gyfleoedd, darllenais drwy'r disgrifiad swydd yn ofalus a gweld bod y cyfle hwn yn cyd-fynd â beth roeddwn i eisiau ei wneud, sef newyddiaduraeth ddogfennol. Roedd y broses ymgeisio’n syml iawn a chwblheais y cais mewn un cynnig.

A sut oedd y cyfweliad i ti?
Isabella: Roedd y cyfweliad yn dda iawn. Roeddwn i'n nerfus ond roedd Joe a Meg (Megan Jenkins, Cynhyrchydd/Golygydd Clear The Fog) yn hawddgar a chroesawgar, a helpodd fy nerfau’n fawr. Fe baratoais i’n drylwyr ar gyfer y cyfweliad oherwydd dim ond cwpl o gyfweliadau roeddwn i wedi’u gwneud o'r blaen, ond dim unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â’m gyrfa ddewisol.
Joe: Y peth wnaeth yr argraff fwyaf arna’ i gydag Isabella oedd ei bod hi wedi ymchwilio, roedd hi’n gwybod amdanom ni a beth roedden ni’n ei wneud. Roedd hi wedi gwneud rhai lleoliadau yn barod lle roedd hi wedi ysgrifennu copi, ac roedd hi'n amlwg yn rhagweithiol iawn.
Isabella, sut oeddet ti'n teimlo ar dy ddiwrnod cyntaf, a pha fath o bethau wnest ti yn dy sesiwn gyntaf yn Clear the Fog?
Isabella: Roeddwn i'n dal yn nerfus iawn, ond fe wnes i ddechrau ymlacio’n gyflym. Gofynnodd Joe a Meg i mi am y sgiliau roeddwn i eisiau eu dysgu, ac yna gwnaethon nhw roi tasgau i mi oedd yn cyfateb i hynny. Felly, roedd yn teimlo fel lleoliad personoledig ac roedden nhw wir yn poeni am beth roeddwn i eisiau cael allan ohono.
Pa fath o dasgau oeddet ti’n eu gwneud?
Isabella: Ysgrifennu copi yn bennaf ac fe wnes i ychydig o olygu ar ôl i mi ddweud bod gen i ddiddordeb. Y sesiynau ffilmio oedd y rhan fwyaf gwerthfawr i mi, siŵr o fod, er mai dim ond edrych ar beth oedd yn mynd ’mlaen oeddwn i. Roeddwn i eisiau dysgu beth sy’n mynd ’mlaen y tu ôl i'r llenni oherwydd dydych chi ddim yn gweld hynny nes eich bod chi’n gwneud y gwaith eich hun. Roedd gweld sut mae'n gweithio yn wirioneddol addysgiadol.
Joe: Helpodd Isabella ni gyda'r castio hefyd a gwnaeth rywfaint o olygu gan ddefnyddio Premiere Pro.
Mae hi hefyd wedi ein helpu ni gyda'n gwefan, sy'n bwysig iawn o safbwynt marchnata. Rydyn ni'n gwneud llawer iawn o waith bob blwyddyn, ond anaml iawn rydyn ni’n cael cyfle i’w arddangos oherwydd rydyn ni’n symud ’mlaen i'r peth nesaf mor gyflym. Felly fe wnaeth Isabella ein helpu i ysgrifennu am brosiectau rydyn ni wedi'u gwneud yn y gorffennol. Ac fe dynnodd hi lawer o'r lluniau ‘tu ôl i'r llenni’ rydyn ni wedi'u defnyddio ar Instagram.
Roedd hi’n bwysig bod pwy bynnag y bydden ni’n ei gael yn dod ’mlaen yn dda gyda'n cleientiaid ni. Mae'r rhain yn gleientiaid sy'n talu ac roedden ni'n teimlo'n ddigon cyfforddus oherwydd roedd hi mor broffesiynol a chyfeillgar. Roedd hi'n wych gyda nhw ac maen nhw wedi dod ’nôl a dweud diolch a’i bod hi wedi bod yn llawer o help.

Felly fe wnest ti sôn yn gynharach, Isabella, dy fod yn nerfus yn mynd i mewn i amgylchedd gwaith. Wyt ti’n teimlo'n llai nerfus nawr ar ôl y profiad yma?
Isabella: O ydw, mae wedi cynyddu fy hyder a’m gwneud i’n llawer mwy cyfarwydd â gweithle sy'n adlewyrchu'r yrfa rydw i eisiau ei gwneud, yn hytrach na'r dafarn, swydd ran-amser yr oeddwn i'n ei gwneud. Ac mae mynd trwy'r broses gyfweld wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi hefyd.
Joe, sut fyddet ti'n perswadio cyflogwyr eraill i roi cynnig ar leoliad profiad gwaith?
Joe: Byddwn i’n dweud ei fod wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i ni. Mae wedi bod yn help mawr, ac mae cael rhywun yn ymuno â ni, dysgu rhywbeth newydd a'n helpu ni ar hyd y ffordd wedi bod yn hynod werth chweil!
Roedd y broses o recriwtio hefyd yn syml iawn. Fe wnaethoch chi bopeth yn hawdd iawn, gan fy nhywys drwy'r broses gam wrth gam. Dim ond cwpl o ffurflenni oedd ’na ac os oedd unrhyw beth ar goll nad oeddwn i wedi ei gynnwys, roeddech chi'n cysylltu’n gyflym i ddweud, 'llenwa’r darn yma' neu 'mae angen y manylyn yma arna’ i'.
Gweithiwch gyda myfyriwr o Brifysgol Caerdydd
Gall y Tîm Profiad Gwaith Dyfodol Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd eich cefnogi gydag ystod o gyfleoedd. Ein dau gyfle mwyaf poblogaidd yw’r Lleoliadau Blas ar Fyd Gwaith ‘dysgu a gwneud’ ac interniaethau â chyflog. Mae’r ddau yn ceisio pontio’r bwlch rhwng astudiaeth academaidd a phrofiad galwedigaethol. Mae’r cyfleoedd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso’r theori a’r sgiliau a enillwyd yn ystod eu gradd i waith ymarferol a phroffesiynol.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, neu i drefnu cyfarfod rhagarweiniol, e-bostiwch workexperience@caerdydd.ac.uk.