Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Mae adran Technegol yn awyddus i benodi Gweinyddwr Technegol i goruchwylio a rheoli gwaith gweinyddol y Swyddfa Dechnegol a chefnogi Tîm y Swyddfa Dechnegol i ddatblygu ac ymgymryd â phrosiectau strategol. Mae'r swydd wedi’i lleoli yn Swyddfeydd Technegol WMC, bydd cyfarfodydd achlysurol ar safleoedd CTS ac Eastmoors, yn ogystal ag ymweliadau achlysurol â lleoliadau taith ar gyfer cyfarfodydd gweithredol.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
- Sicrhau bod y gwasanaeth gweinyddol a ddarperir i'r Swyddfa Dechnegol yn cael ei ddarparu a'i gynnal i safon uchel.
- Cynnal a diweddaru'r holl wybodaeth dechnegol ar Sharepoint ac ar wefannau yn ôl yr angen.
- Hyrwyddo gweithrediadau llogi cynyrchiadau trwy WNO a gwefannau a fforymau rhyngwladol.
- Cefnogi'r Rheolwr Trafnidiaeth i gydymffurfio â thelerau Trwyddedau Gweithredwr Cerbydau Nwyddau WNO gan gynnwys: cadw cofnodion am yrwyr a cherbydau.
- Cefnogi'r Uwch Dechnegydd Gweithrediadau i reoli cydymffurfiaeth a chynnal a chadw ar Gerbydau Cwmni sydd ddim yn LGV gan gynnwys: cadw cofnodion gyrwyr a cherbydau.
- Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau Technegol i gysylltu â Thimau Rheoli Cyfleusterau CMC at ddibenion cynnal a chadw adeiladau, diogelwch, glanhau, rheoli plâu a materion eraill yn ôl yr angen.
- Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer llogi stoc, propiau a gwisgoedd - cynnal dyddiadur archebu - rhoi gwybod am gynnydd a gofyn am gefnogaeth weithredol gan yr Uwch Dechnegydd Gweithrediadau.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
- Cefndir amlwg mewn rôl weinyddol.
- Sgiliau trefnu, gweinyddu a rhifol rhagorol.
- Sgiliau cyfrifiadur rhagorol gyda phwyslais ar becynnau Microsoft Office a phecynnau cronfeydd data.
- Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith cymhleth a gweithio o fewn terfynau amser tynn.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig rhagorol.
- Profiad o ddatblygu systemau a gweithdrefnau gweinyddol effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Gweithio’n galed ac yn egnïol; yn hyblyg ac yn gallu addasu
- Yn gallu gweithio ar eich pen eich hun ac ar eich menter eich hun yn ogystal â fel aelod o dîm.