Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn rhannu pŵer opera byw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr – mewn theatrau, cymdogaethau ac arlein.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Technegol i ymuno â'n tîm Technegol prysur i oruchwylio a rheoli gwaith gweinyddol y Swyddfa Dechnegol a chefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau Technegol i ddatblygu prosiectau strategol ac ymgymryd â nhw.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gefndir profedig mewn swydd weinyddol, yn meddu ar sgiliau trefnu, gweinyddol a rhifiadol rhagorol ac yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith cymhleth a gweithio at derfynau amser tynn. Bydd y swydd yn gofyn i'r ymgeisydd weithio heb oruchwyliaeth a chymryd menter, ond gweithio fel rhan o dîm hefyd. Mae profiad blaenorol o reoli trafnidiaeth a gwybodaeth gyfredol dda o'r celfyddydau, yn ddelfrydol opera, sioeau cerdd a'r theatr yn ddymunol.