Gweinyddwr Adnoddau Dynol - Cytundeb Cyfnod Penodol - Awst 2025
Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
A ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa Adnoddau Dynol? Rydym yn chwilio am Weinyddwr Adnoddau Dynol gweithgar a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Gweithrediadau Adnoddau Dynol. Yn adrodd yn uniongyrchol i’r Cynorthwyydd Partner Busnes AD, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn llywio dyfodol ein sefydliad yn ystod cyfnod o newid.
Mae’r swydd hon yn fwy na rôl dydd-i-ddydd; mae’n gyfle i gael profiad ymarferol o brosiectau cyffrous sy’n arwain newid gwirioneddol, wrth sicrhau gweithrediadau di-drafferth o swyddogaethau AD. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth, ffynnu mewn amgylchedd prysur, ac yn awyddus i dyfu a datblygu yn eu gyrfa.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
Fel rhan o’ch rôl fel Gweinyddwr AD, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer bob ymholiad sy’n ymwneud ag AD. Byddwch chi’n arwain ar y broses recriwtio, o greu a gosod hysbysebion swyddi, yr holl ffordd i’r prosesau ymgynefino a chyflwyno. Byddwch hefyd yn gyfrifol am brosesau eraill, megis DBS ac Anfonebu. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd nodiadau mewn cyfarfodydd ffurfiol a chymryd rhan a chefnogi Prosiectau AD.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
· Y gallu i drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith, gweithio at derfynau amser tynn.
· Sgiliau gweinyddu a chynllunio cadarn.
· Profiad o ddefnyddio systemau AD.
· Gwybodaeth a dealltwriaeth o GDPR.
· Cynnal lefelau cadarn o gyfrinachedd.
· Sgiliau TG rhagorol.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol
£22,000-£24,000 y flwyddyn.
Gwyliau Blynyddol
Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn
Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa
Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park
Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg
Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
Cynllun Arian Meddygol ac Ychwanegiadau at Fy Nghyflog
Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO. Mae hyn yn golygu bod modd i chi hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddol, optegol, osteopathi a mwy. Gallwch hefyd gyrchu gwasanaeth Meddyg Teulu a Phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela. Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys diwrnodau hamdden allan, pryniannau i'r cartref, moduro a theithio.
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Heledd Davies, Cynorthwyydd Partner Busnes AD drwy e-bostio heledd.davies@wno.org.uk