Gweinydd Bwyd a Diod

Cyflog
Cyflog Byw Gwirioneddol- £18,018 ar hyn o bryd, yn newid ym mis Ebrill 2023
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
22.02.2023
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 9 February 2023

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl: Gweinydd Bwyd a Diod [35 awr yr wythnos. Llawn Amser]

Ystod Cyflog: Cyflog Byw Gwirioneddol- £18,018 ar hyn o bryd, yn newid ym mis Ebrill 2023

Dyddiad Cau: 22/02/23

Noder na fydd ceisiadau trwy Indeed yn cael eu derbyn.

I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi

Amdanom ni/Ein Hadran:

Canolfan Mileniwm Cymru yw prif ganolfan celfyddydau’r genedl ac fe’i hadeiladwyd i Danio’r Dychymyg drwy arddangos y cynyrchiadau gorau oll, meithrin doniau creadigol Cymru a darparu profiadau bythgofiadwy.

  • Ein hadran Bwyd a Diod yw'r pwynt cyswllt cyntaf i’n cwsmeriaid, sydd yn ein gwneud yn rhan allweddol o ddarparu profiad bythgofiadwy.
  • Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r adran, gan y byddwn yn agor tri lleoliad newydd yn fuan. Bydd bar Cabaret, yn cynnal digwyddiadau hwyliog, unigryw a bythgofiadwy. Bydd Ffwrnes, caffi a bar, wedi ei leoli ar draws fynedfa gyfan y Ganolfan.Bydd Ffwrnes yn ganolbwynt yr adeilad, ac yn darparu gofod i’r gymuned gyfan o fore tan nos.

Rydym hefyd yn ailaddurno lolfa ein haelodau, i ddarparu gofod croesawgar a chynnes gyda’r cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

  • Chi fydd wyneb Canolfan Mileniwm Cymru, ac felly bydd disgwyl i chi feithrin gwybodaeth ragorol am ein cynnyrch a’r hyn sy'n digwydd yn y Ganolfan ac ymgorffori ein gwerthoedd trwy eich safonau uchel o wasanaeth.
  • Fel aelod craidd o'r tîm, byddwch yn cefnogi'r goruchwylwyr trwy weithredu fel model rôl ar gyfer staff achlysurol eraill, gan roi arweiniad ar weithdrefnau gweithredu safonol.
  • Ar adegau bydd disgwyl i chi allu gweithio'n effeithlon ac yn hyderus ar eich pen eich hun.
  • Bydd gennych brofiad o ymdrin â materion cwsmeriaid a byddwch yn gymwys i ddatrys materion yn gyflym er boddhad cwsmeriaid.
  • Bydd gennych brofiad da mewn gwahanol fathau o wasanaethau lletygarwch, er enghraifft, gweithio y tu ôl i far, gweini wrth y bwrdd, gweithio mewn caffi, neu weithio mewn digwyddiadau.
  • Bydd gennych wybodaeth dda am arferion gorau yn y diwydiant lletygarwch a rheoliadau diogelwch bwyd.
  • Byddwch yn gymwys wrth ddefnyddio systemau Pwynt Gwerthu Electronig (EPOS).
  • Byddwch yn gallu cynorthwyo goruchwylwyr neu reolwyr Bwyd a Diod gyda thasgau gweithredol pan fo angen.
  • Byddwch yn adrodd am unrhyw faterion sy'n codi i'r goruchwyliwr mewn modd amserol.
  • Byddwch yn adrodd am unrhyw adborth cadarnhaol a llwyddiannau i'r goruchwylwyr i'w rhannu gyda'r tîm ehangach.
  • Byddwch yn cynrychioli’r tîm Bwyd a Diod yn fewnol ac felly bydd gofyn i chi weithio'n effeithiol, yn effeithlon ac yn bositif gydag adrannau eraill yn y Ganolfan.
  • Byddwch yn cynorthwyo i gyflwyno nifer o ddigwyddiadau a phrosiectau unigryw ledled y Ganolfan, trwy helpu i osod bariau, trefnu lleoliadau, cyfrannu at greu bwydlenni a darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid. Mae rhai o'n digwyddiadau yn y dyfodol yn cynnwys ffilmio gan S4C, digwyddiad Newid Cenhedlaeth Llywodraeth Cymru a Chwarae Opera Yn Fyw.

Anghenion Allweddol:

  • Gallu profedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser.
  • Profiad o weithio'n effeithlon ac effeithiol mewn amgylchedd gwasanaeth prysur.
  • Yn gymwys a phrofiadol wrth drin arian parod.
  • Profiad da o ddefnyddio systemau Pwynt Gwerthu Electronig (EPOS).
  • Gwybodaeth sylfaenol am safonau diogelwch bwyd.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
  • 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.