Goruchwyliwr Swyddfa Docynnau

Cyflog
£23,827
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
16.08.2024
Profile picture for user shermantheatre

Postiwyd gan: shermantheatre

Dyddiad: 30 July 2024

Mae Theatr y Sherman yn chwilio am unigolyn deinamig sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i lenwi swydd barhaol, amser llawn o fewn tîm y Swyddfa Docynnau. Bydd Goruchwylydd y Swyddfa Docynnau yn cefnogi Rheolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd drwy ddirprwyo yn eu habsenoldeb tra’n cyflawni dyletswyddau craidd y Swyddfa Docynnau gan gynnwys darparu’r safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid, gwneud y mwyaf o gyfleoedd gwerthu, cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata, a’r gorau o swyddogaeth Derbynfa Theatr y Sherman.

Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Gwener 16 Awst 2024

Cyfweliadau: Dydd Iau 29 a/neu ddydd Gwener 30 Awst 2024

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.

Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan. 

Mae pecynnau cais Cymraeg a Saesneg ar gael yn https://www.shermantheatre.co.uk/job/goruchwyliwr-y-swyddfa-tocynnau-2/?lang=cy

Ariennir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.