Golygydd Cymraeg Poetry Wales

Cyflog
Ffi o £500
Location
Gweithio o bell, gyda'r dewis i weithio yn swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr
Oriau
Other
Closing date
19.07.2024
Profile picture for user Seren

Postiwyd gan: Seren

Dyddiad: 26 June 2024

Mae Poetry Wales yn chwilio am Olygydd Cymraeg tan fis Rhagfyr 2024.

Cyfnodolyn a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn yw Poetry Wales. Mae'n cyhoeddi barddoniaeth gyfoes gan rai o'r beirdd mwyaf cyffrous o bedwar ban y byd. Yn 2025 byddwn yn dathlu trigain mlynedd o'r cyhoeddiad, a chyda chymorth Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru, mae’n bleser gennym gael cyhoeddi nifer o gyfleoedd cyfnod penodol i'n helpu i gynhyrchu rhifynnau cyntaf Cyfrol 60.

Rydym yn chwilio am Olygydd Cymraeg a all:

  • Gyfieithu barddoniaeth o'r Gymraeg i Saesneg a barddoniaeth o  Saesneg i'r Gymraeg
  • Ysgrifennu ac/neu gomisiynu gwaith ar gyfer gwefan Poetry Wales
  • Helpu i ddewis cerddi Cymraeg ar gyfer y rhifyn trigainmlwyddiant (Mawrth 2025)
  • Cefnogi golygyddion y cylchgrawn a'r golygyddion adolygiadau, gan gynnwys cyfieithu rhywfaint o ddeunydd cyfathrebu os a/neu pan fo angen

Ein hymgeisydd delfrydol fydd rhywun sydd:

  • Yn rhugl yn y Gymraeg ac yn Saesneg
  • Â phrofiad o gyfieithu barddoniaeth ac / neu ryddiaith mewn modd creadigol
  • Yn cwblhau gwaith o fewn terfynau amser
  • Yn dda am ddatrys problemau
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o'r gymuned o feirdd Cymraeg
  • Â phrofiad bywyd o hiliaeth, ableddiaeth, trawsffobia, homoffobia ac/neu dlodi

Mae Poetry Wales bob amser yn agored i ystyried buddsoddi mewn rhywun a all ddangos potensial datblygu i ni yn y rôl hon, er efallai na fyddant yn gallu dangos pob un o’r meini prawf delfrydol a restrir uchod.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn sesiynau hyfforddi ar olygu a chynhyrchu cyfnodolion proffesiynol a golygu ymarferol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event