Mae tua 15% o bobl ym mhoblogaeth gyffredinol y DU yn niwroamrywiol; ond yn y diwydiannau creadigol, amcangyfrifir y gallai fod mor uchel â 50%. Mae adeiladu cymunedau cefnogol ar gyfer pobl greadigol yn y ddinas a’r rhanbarth ehangach yn allweddol i waith Caerdydd Creadigol, yn enwedig pobl greadigol sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol neu sydd wedi wynebu rhwystrau i ymgysylltu â digwyddiadau a gweithgarwch Caerdydd Creadigol yn y gorffennol.
Mae Tom Bevan, mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol, yn cynnal gofod misol i bobl greadigol niwroamrywiol sy’n gweithio yn y sector diwylliannol a chreadigol yn Ne Cymru ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu.
Ers ei lansio yn hydref 2023, mae DIVERGE wedi ymgysylltu â dros 100 o bobl greadigol niwroamrywiol. Nid oes angen i chi gael diagnosis ffurfiol i fynychu.
Dywedodd arweinydd DIVERGE, Tom Bevan:
Un o fy hoff bethau am DIVERGE yw’r gymuned yr ydym yn ei hadeiladu gyda’n gilydd – weithiau mae hynny’n edrych fel 'body doubling' i gadw ein hunain yn atebol i’n terfynau amser ac ar adegau eraill mae’n ymwneud â rhannu adnoddau, ymarfer creadigol, strategaethau ymdopi neu baneidiau o goffi. Bob mis rydym yn cael clywed gan bobl greadigol niwroamrywiol gwych yn y sgwrs amser cinio, er enghraifft rydym wedi clywed yn ddiweddar gan y dramodydd a’r actor Katie Payne, yr artist gweledol Tess Gray, y bardd a rapiwr Duke Al, a’r newyddiadurwr ymchwilydd cynhwysol Shirish Kulkarni. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chaerdydd Creadigol a Tramshed Tech, sydd wedi bod yn bartneriaid gwych, ac rwy’n ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r prosiect gyda’u cronfa Rhannu Gyda’n Gilydd.
Beth i'w ddisgwyl mewn digwyddiad DIVERGE
Yn canolbwyntio ar adeiladu cymuned, mae digwyddiad ‘DIVERGE’ yn cynnwys cydweithio, rhwydweithio, sgwrs fer a sesiwn holi-ac-ateb gan gydweithiwr creadigol niwroamrywiol, ac amser ar gyfer mentora cymheiriaid a datblygu syniadau.
Cynhelir pob digwyddiad yn The Station yn Tramshed Tech, mewn man agored anffurfiol gyda desgiau, socedi plygiau, diodydd poeth, cacen a digon o le i weithio a chysylltu ag eraill.
Mae'r gofod yn agor am 10:00 ac yn cychwyn gyda chyflwyniadau dewisol, dod i wybod pwy sydd yn yr ystafell a beth maen nhw'n gweithio arno'r diwrnod hwnnw. Dilynir y bore wedyn gan gyfnod o gydweithio, cyn sgwrs gan gydweithiwr creadigol niwroamrywiol dros amser cinio. Yn y prynhawn, mae cyfle arall i gydweithio yn y gofod, gan orffen gyda sesiwn trafod wedi’i hwyluso gan Tom.
Mae croeso i chi alw heibio ac allan drwy gydol y dydd os na allwch ymrwymo i’r sesiwn gyfan. Mae mannau tawel ac ystafelloedd cyfarfod hefyd ar gael ar gais.
Dywedodd Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Caerdydd Creadigol:
Dros y 18 mis diwethaf, mae wedi bod yn wych gweld y gymuned gefnogol sydd wedi dechrau datblygu trwy DVERGE. Mae Tom wedi creu gofod mor groesawgar, gwerthfawr, lle mae opsiwn i rwydweithio a chymryd rhan yn y sesiynau wedi’u hwyluso, neu ddim ond dod i weithio’n dawel a gwrando. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y gallwn ddatblygu’r gymuned DIVERGE ymhellach yn y dyfodol a sicrhau bod pobl greadigol niwroamrywiol yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a’u cefnogi drwy ein gwaith.