Gwelwch y disgrifiad clywedol isod a chliciwch CC ar y fideo er mwyn dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.
Mae Gareth John a Morgan Thomas yn ffrindiau sy’n byw yng Nghaerdydd sy’n creu theatr.
Roeddem am i’n darn ni adlewyrchu’r ffordd mae ein bywydau wedi newid ers y cyfyngiadau symud. Y ffordd y gall cyfeillgarwch ein helpu drwy gyfnodau anodd a’n gwneud ni’n obeithiol am y dyfodol.
Er bod y fformat yn syml, sef sgwrs rhwng y ddau ohonom, roeddem yn teimlo ei bod hi’n bwysig i’r lleoliad a ddefnyddiwyd adlewyrchu ein bywydau blaenorol. Felly, am y tro cyntaf mewn tri mis, fe wnaethom gyfarfod ar ddiwrnod braf o haf y tu allan i Ganolfan Gelfyddydau Chapter, sydd ar gau ar hyn o bryd.
Roeddem am i’r darn deimlo’n anffurfiol, felly ni chafodd ei sgriptio. Fodd bynnag, wrth reswm mae’n anodd osgoi’r teimlad bod rhywbeth wedi’i baratoi ymlaen llaw, felly penderfynwyd cadw’r sgwrs oddi ar y camera rydych yn ei chlywed ar ddechrau’r ffilm.
Hoffem ddiolch i’r trydydd artist a weithiodd ar y prosiect hwn, y gwneuthurwr ffilmiau Jonathan Dunn, a wnaeth hefyd weithio gyda ni drwy Zoom er mwyn golygu’r ffilm. Hefyd diolch i Ben Pettitt Wade a phawb yn Hijinx. Yn olaf, wrth gwrs, diolch i Gaerdydd Creadigol am roi’r cyfle gwych hwn inni.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau ac y byddwn i gyd yn cael ein “byrgyrs wedi’r cyfyngiadau symud” ein hunain yn fuan!
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Gareth a Morgan:
I wybod mwy am Gareth John, Morgan Thomas a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.