Galwad Castio - The End of the Line R&D

Cyflog
£650 am yr wythnos
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
23.05.2025
Profile picture for user Alice and Frankie - Producers

Postiwyd gan: Alice and Fran…

Dyddiad: 2 May 2025

Rydym yn chwilio am ddau actor i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil a datblygu o’n cynhyrchiad The End of the Line. Ysgrifennwyd gan Helen Cattle ac wedi ei gyfarwyddo gan Angharad Lee. Bydd yr wythnos datblygu yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, gyda’r bwriad o weithio gyda rhai syniadau o’r sgript cychwynnol gan Helen er mwyn helpu adeiladu byd y cynhyrchiad.

Mae The End of the Line yn archwilio'r ffordd rydyn ni'n trin menywod heb blant, p'un a’i ydynt yn ystyried eu hunain heb plant neu yn ddi-blant. (CNBC - childless not by choice). Byddwn yn edrych i ddathlu hawl menyw i ddewis peidio â bod yn fam ac archwilio gwahanol ffyrdd o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn fam.

Rydym yn chwilio am berfformwyr sy'n uniaethu neu gyda diddordeb â themâu'r cynhyrchiad.

Actor 1
Uniaethu fel menyw
Balch o fod yn rhydd o blant trwy ddewis
18-20 oed

Actor 2
Uniaethu fel menyw
Yn Famol / Duw
50au-60au oed
Siaradwr Cymraeg

Dyddiadau: 30 Mehefin - 4 Gorffennaf 2025 (sylwch y bydd angen i chi fod ar gael am yr wythnos gyfan)

Ffi: £650 am yr wythnos

Anfonwch eich CV, proffil Spotlight neu baragraff byr am eich gwaith, yn ogystal ag unrhyw gysylltiad sydd gennych â'r thema at: aliceandfrankieproducers@gmail.com.

Dyddiad Cau: 23ain Fai

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.