Rydyn ni’n awyddus i weithio gydag artistiaid dros gyfnod o flwyddyn, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2025, i wireddu darn o waith gorffenedig sydd â’r potensial i deithio ledled Cymru a’r tu hwnt.
Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael:
- £3000 fel ffi artist
- Pedair sesiwn dysgu gan gyfoedion wedi’u datblygu mewn trafodaeth â thîm Chapter a’r garfan
- Tair wythnos o amser ymchwil a datblygu yn Chapter gyda chymorth technegol
- £1000 o gyllideb cynhyrchu i’w wario ar ddeunyddiau, cefnogaeth dechnegol neu offer y tu allan i adnoddau Chapter
- Teithio a llety yn ystod yr ŵyl
- £500 cyllid hygyrchedd
- Cyngor ac arweiniad i deithio â’r gwaith gyda lleoliad(au) partner