GŴYL PRINTIEDIG 2024

08/06/2024 - 12:00
Chapter, Caerdydd
Profile picture for user The Printhaus

Postiwyd gan: The Printhaus

info@theprinthaus.org

GŴYL PRINTIEDIG 2024

DYDD SADWRN MEHEFIN 8FED A DYDD SUL MEHEFIN 9FED  - 11AM-4PM - MYNEDIAD AM DDIM

GYDA CHEFNOGAETH CANOLFAN GELFYDDYDAU CHAPTER, MAE'R TOUR DE FORCE PRINT WAGON A'R PRINTHAUS YN DYCHWELYD AR GYFER YR AIL ROWND O’R ŴYL PRINTIEDIG!

BETH YW'R ŴYL?

Ar ôl lansio'r ŵyl yn llwyddiannus y llynedd, rydyn ni wedi sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddod â gŵyl Printiedig ’24 fwy a gwell i chi!

Mae diwylliant printio Cymru’n gryf. Mae hygyrchedd y gelfyddyd yn apelio at ystod eang o wneuthurwyr, ac mae llawer o sefydliadau print profiadol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Mae Treganna yn benodol wedi profi’n ganolbwynt ar gyfer stiwdios print-seiliedig a phrint-cyfagos. Mae ein gŵyl mewn sefyllfa berffaith yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, i ddod â'r busnesau hyn at ei gilydd am benwythnos i ddathlu’r printiedig.

Ein nod yw parhau i adeiladu ar y diwylliant presennol yn y de drwy greu'r fforwm newydd hwn ar gyfer artistiaid, sefydliadau ac addysgwyr fel ei gilydd. Bydd yr awyrgylch gŵyl yn galluogi pobl i wneud cysylltiadau, i rannu adnoddau, ac yn fodd i bawb gael cyfle a chyfranogi. Mae'r gymuned eisoes yn gryfach ers yr ŵyl y llynedd, ac rydyn ni’n llawn cyffro i gadw'r momentwm i fynd.

––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––––

“Cawsom ein syfrdanu a’n gan yr holl sylwadau cadarnhaol o’r ddigwyddiad llynedd, roedd yn wylaidd iawn! Fe wnaethon ni erfyn, dwyn, a benthyca a thaflodd pawb a gymerodd ran eu hunain i fewn i'r digwyddiad gydag angerdd di-ben-draw! Eleni rydym am ehangu a chysylltu â mwy o bobl greadigol a chreu profiad gwell fyth i ymwelwyr.(Tom - Y Printhaus)

Aeth yr Ŵyl Printiedig yn llawer gwell nag y gallwn i erioed fod wedi breuddwydio! Ar ôl blynyddoedd o gynllunio gyda Tom a Jude, llwyddwyd i greu gŵyl brint gynhwysol, ryngweithiol roedd yn addysgu ac yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn arferion creadigol. Cyn gynted a ddaeth y ddigwyddiad i ben, sylweddolom mae dim ond sylfaen i brosiect mwy roedd yr Ŵyl Printiedig, a chawsom ein hysbrydoli a’n gorfodi (!) i feddwl am ffyrdd newydd ac arloesol y gallem ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru a’u cyffroi i gwneud printiau. Felly eleni rydyn ni'n mynd yn fwy ac yn fwy beiddgar, gyda mwy o'r hyn aeth yn dda y llynedd a thriciau newydd a diddorol i fyny ein llewys ar gyfer eleni. Allwch chi ddim ei golli.” (Aidan – Print Wagon)

DROS BENWYTHNOS YR ŴYL

Dewch i ddarganfod beth yw print!

Bydd amrywiaeth enfawr o weithgareddau cyfeillgar i deuluoedd yn cael eu cynnal, wedi'u cynllunio i godi awch am bopeth print!

Bydd ‘llwybr gwneuthurwyr’ o stondinau artistiaid print yn gwau drwy’r ardal. Gallwch gymryd eich amser i dorchi llewys a rhoi cynnig ar y gweithgareddau printio, o risograff i brintio sgrîn, a phopeth rhwng y ddau. Beth am fentro i stiwdio Printhaus i weld arddangosiadau creu printiau byw. Os ydych chi am fodloni'ch chwilfrydedd ymhellach, archebwch le i glywed panel trafod sy'n ymchwilio'n ddwfn i waith gwneud printiau, neu wrando ar sgwrs gan un o'n gweithwyr argraffu proffesiynol.

Bydd y Tywyswyr Print ar hyd y lle drwy’r penwythnos - yn wynebau cyfeillgar i’ch cyfeirio chi, eich ffrindiau a’ch teulu i ble hoffech fynd.

Rydyn ni hefyd wrth ein boddau i gyflwyno cyhoeddiad Gŵyl Printiedig eleni, a fydd yn cael ei ryddhau yn y cyfnod cyn y digwyddiad. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am y cyfranogwyr, y gweithdai cymunedol, map o'r digwyddiad, a rhai nwyddau eraill sy'n gysylltiedig â phrint hefyd!

Os ydych chi’n artist gweithgar, yn printio fel hobi, neu’n gwbl newydd i’r byd printio, mae GŴYL PRINTIEDIG yn siŵr o gynnig rhywbeth i chi – printiau hyfryd, cyfle i greu eich print eich hunan, cyfle i rwydweithio, a llawer mwy.

SIARADWYR WEDI'U CADARNHAU:

Tom Frost

Lena Yokoyama & Rory Wyn - Isshoo Collective

TRAFODAETH BANEL:

Cyflwynydd- Emma Marshman (USW)

Panel- Alice Prentice (Isle of Riso)

Panel - Catherine Ade (Lemonade Press)

BYDD Y STIWDIOS PRINT A’R GWNEUTHURWYR PRINTIAU YN CYNNWYS;

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth am yr ŵyl!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event