Fideos Dangos a Dweud

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 11 August 2017

Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd Caerdydd Creadigol sesiwn Dangos a Dweud yn Gymraeg gydag Osian Williams, Angharad Lee a Manon Edwards Ahir. 

Daeth y gymuned greadigol ynghyd yn nhafarn Porters's, Caerdydd, i glywed am y prosiectau diweddaraf gan ein tri siaradwr yn eu meysydd arbenigol nhw – creu ffilmiau, theatr a chyfathrebu. 

Mae Dangos a Dweud yn gyfle i siaradwyr rannu'r hyn a wnaeth eu hysbrydoli yn eu proses greadigol, ac edrych ar y rhesymau pam eu bod wedi dewis bod yn weithiwr creadigol yng Nghaerdydd. 

Diolch i SSP Media am ffilmio'r sgyrsiau hyn, i Sian Morgan Lloyd am gyflwyno’r digwyddiad, ac i Osian, Angharad a Manon am rannu hanes. 

Os oes gennych unrhyw siaradwyr i’w hawgrymu ar gyfer sesiynau Dangos a Dweud y dyfodol, neu os hoffech gael eich hystyried, anfonwch ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk neu neges uniongyrchol at gyfrif @CreativeCardiff ar Twitter.

[View the story "Caerdydd Creadigol Dangos a Dweud//Creative Cardiff Show & Tell" on Storify]
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.