Ein lle creadigol: Cyflwyno'r bobl greadigol sydd wedi'u comisiynu yn 2021

Ym mis Ionawr, lansiwyd Ein lle creadigol mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 March 2021

Y briff oedd comisiynu ymarferwyr creadigol o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i gynhyrchu darn o waith yr un sy'n mynegi'r hyn mae'n ei olygu i fod yn berson creadigol yn eu hardal.

Rydym ni'n cydnabod ac yn hyrwyddo pwysigrwydd rhwydweithiau, cysylltiadau a chreu lleoedd. Trwy ymestyn i mewn i BrifddinasRanbarth Caerdydd, ein nod yw adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau newydd i ddeall yn well sut mae naratif y gymuned greadigol yn edrych ar draws y rhanbarth, ble mae gweithgaredd yn digwydd a beth allai ddigwydd yn y dyfodol.

Bydd y map storïol dilynol yn datblygu ymhellach stori cymuned greadigol sy'n tyfu, ac sydd â chysylltiad cynyddol, ar draws y rhanbarth.

Yn dilyn dethol cystadleuol, dewiswyd y bobl greadigol. Caiff straeon Ein lle creadigol eu hadrodd drwy amrywiol gyfryngau o animeiddio i decstilau, pypedwaith i gerflunio iâ gan bobl greadigol o amrywiol sectorau yn cynnwys celf weledol, theatr, animeiddio, cerflunio iâ a dawns.

Y bobl greadigol a gomisiynwyd yn 2021 yw: Claire Hiett + Carys Fletcher, Erin Mali Julian, Francine Davies, Gwenllian Davenport, Hunk Williams, James Tottle, Justin Teddy Cliffe, Lucy Jones, Naz Syed, Rufus Mufasa a Stuart H. Bawler.

Our Creative Place 2021 commissioned creatives

Dywedodd Vicki Sutton, rheolwr prosiect Caerdydd Creadigol: “Rwy'n llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at ddod i adnabod a gweithio gyda'r grŵp gwych hwn o bobl greadigol. Roedd eu ceisiadau'n adlewyrchu rhanbarth bywiog, amrywiol a chreadigol ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd yn dod yn fyw ar y map stori.

"Rydyn ni wedi cwrdd â'r bobl greadigol yn ein sesiwn grŵp gyntaf ac roedd yn wych eu gweld yn cysylltu â'i gilydd ac eisoes yn gefnogol i'w gilydd. Er y bydd y bobl greadigol yn gweithio'n annibynnol ar eu darnau, rydyn ni am eu hannog i ddefnyddio'r profiad hwn i ddatblygu ac adeiladu ar eu rhwydwaith.

Er cymaint y mae'r prosiect yn ymwneud â'r hyn a gaiff ei gynhyrchu ar gyfer y stori ar y map, mae hefyd yn ymwneud â sbarduno a chryfhau cysylltiadau ar draws y rhanbarth - rhywbeth mae Caerdydd Creadigol yn credu mor angerddol ynddo.

Caiff y darnau gwaith eu lansio mewn map stori ar wefan Caerdydd creadigol yr haf hwn.

Rhagor o wybodaeth am bobl greadigol 2021:

Claire Hiett + Carys Fletcher

Claire Hiett 

Fel Artist llawrydd, dwi’n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau – Canolfan Gelf Ty Carnegie, Criw Celf, Plantlife Cymru a dwi’n dysgu tair dosbarth yr wythnos. Headshot of Claire HiettYn gynt, darlithiais yn Addysg Bellach a gweithiais am Ysgol Celf Agored Caerdydd. Mae’r gwaith gyda Ty Carnegie yn amrywiol iawn – o guradu Arddangosfeydd Celf Cymunedol i redeg gweithdai mewn digwyddiadau canol y dre, fel Wartime Bridgend. Mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith wedi bod yn gyfranogol ers gadael AB ond ar ol gweithio adre am flwyddyn, dwi wedi ganolbwyntio ar ymarfer yn y stiwdio yn ogystal a gweithio gyda’r sefydliadau blaenorol.

Carys Fletcher 

 Ers graddio o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn 2017, Headshot of Carys Fletcherdwi wedi gweithio’n llawrydd gyda sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Natur, ac wedi arddangos gwaith yng Nghaerdydd, India a Nepal, hefyd dwi’n cymryd nifer o gomisynau preifat. Fel arfer, dwi’n ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau yn fy ngwaith – o ddyfrliw i’r digidol, ac yn ganolbwyntio ar bethau sy’n bwysig i fi, fel iechyd meddwl, natur a’r amgylchedd. Ar hyn o bryd, dwi’n dysgu Celf mewn sector Dysgu Oedolion yn y Gymuned, ac yn gobeithio ddilyn Claire a dysgu Addysg Bellach yng Ngholeg Penybont yn y dyfodol.

Erin Mali

Helo!  Mae fy ymarfer creadigol yn amrywio o baentio, collage a thatŵio.Headshot of Erin Mali Fy nghyfrwng mwyaf cyfarwydd yw paentio ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rwyf i darganfod cariad newydd at greu gwisgoedd / setiau a defnyddio'r gwaith i greu ffilmiau byr a chollage. Rwyf wrth fy modd â pha mor ymarferol yw'r broses greadigol a gallu mynegi fy hun trwy sawl ffurf wahanol sy'n cyfrannu at y canlyniad terfynol.

Francine Davies

 Mae fy ngwaith fel person creadigol yn annatod gysylltiedig â’r amgylchedd rwy'n Headshot of Francine Daviesbyw ynddo: rwy'n ymgolli'n ddyddiol ym mhrydferthwch gweledol; cyffyrddol; daearegol a chymdeithasol yr Arfordir Treftadaeth. Mae fy amgylchedd yn ysbrydoli ynof i lais a safbwynt a thrwy'r rhain rwyf i'n dehongli'n greadigol y perthnasoedd rhwng Celf ac Ymdeimlad o Le. Ers blynyddoedd lawer rwyf i wedi ymdrechu i ddefnyddio fy Nghelf a fy ysgrifennu fel camau i fy helpu i ac eraill i archwilio gwerth amgylcheddau naturiol a chynaladwyedd yn ein bywydau. Mae rhannu ac amsugno ystyron yn ennyn ymateb creadigol ynof i.

 

Gwenllian Davenport

Mae Gwenllian Davenport yn artist amlddisgyblaethol a’i magwyd ym Merthyr Tudful o fewn teulu dwyieithog.  Gwenllian Davenport head shotMae ei hymarfer yn llywio ei pherthynas newidiol gyda’i mamiaith a’i chysylltiad cynhenid gyda hunaniaeth bersonol Gwenllian. Fel myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerfaddon, mae Gwenllian wedi ennill clod wrth dderbyn Gwobr Cerflunydd Ifanc Kenneth Armitage 2019, a Chymrodoriaeth Raddedig Spike Island 2019-2020. Yn Hydref 2020, arddangosodd Gwenllian yn After Hours, sioe celf cynhaliwyd gan Oriel Bowes-Parris, Llundain. Mae ei gwaith cydweithredol yn cynnwys Si-So (Ionawr 2021), corff o waith ar-lein gyda MASH, cefnogwyd gan Arcade-Campfa, Caerdydd.

Hunk Williams

 Hunk Williams ydw i, arlunydd amlgyfrwng Hunk Williams headshotQueer o Maesycwmmer. Gyda ffocws ar hygyrchedd a chyswllt, mae fy arddull wedi'i chrefftio'n ofalus i gyd-fynd â'r ffordd mae'r dwylo a roddwyd i mi gan dduw'n gweithio - yn boenus a sigledig ar ddiwrnod da. Yn sgil fy mhrofiad cymhleth o dyfu i fyny'n Queer ac yn niwroamrywiol yn y cymoedd, mae fy ngwaith yn adleisio eiconau kitsch y gorffennol gan ddefnyddio dychan wrth wahodd y gwyliwr i ystyried "Ond pam, leic?" Mae fy ngwaith yn aml yn ymgorffori afreswm a diwylliant pop, gyda ffocws ar liw a siâp, i dalu gwrogaeth i bethau sy'n fy swyno (er gwell neu er gwaeth).

James Tottle 

Rwyf i'n gerflunydd cerfiwr peintiwr dylunydd ac artist cyffredinol yng nghymoedd de Cymru. James Tottle headshotRwyf i'n fwyaf hapus pan fyddaf i'n gweithio ar brosiect newydd, yn enwedig os yw mewn maes newydd. Mae trin a thrafod deunyddiau crai i greu ffurfiau newydd yn fy rhoi mewn cyflwr myfyriol ac rwyf i wrth fy modd yn dod o hyd i ffyrdd newydd i gyrraedd y casgliad rwy'n ei ddymuno. Mae fy ngwaith fel cerfiwr iâ wedi dysgu mwy i fi nag y byddwn i wedi'i ddisgwyl erioed ond y peth mwyaf gwerthfawr rwyf i wedi’i ddysgu drwy weithio o ddydd i ddydd am flynyddoedd lawer ar gerfiadau yw pa mor bwysig yw cael proses ddisgybledig ac nad oes dim byd yn para am byth, felly ymlaciwch. 

Justin Teddy Cliffe 

  Fy enw i yw Justin Teddy Cliffe, Justin Teddy Cliffe headshotrwyf i'n Artist, Gwneuthurwr a Chyfarwyddwr Theatr sy'n ymwneud â chamau datblygu, dyfeisio a pherfformio theatr a chelfyddyd yn fyw. Mae fy ngwaith yn lled-hunangofiannol ac yn archwilio fy mhrofiadau fy hun o salwch meddwl, gwrywdod a stwff modern. Drwy ganolbwyntio ar y pynciau hyn drwy lensys diwylliant poblogaidd a chreu profiadau byw sy'n fy nghysylltu â chynulleidfaoedd, fy nod yw dyrchafu'r syniadau hyn gyda chyseinedd byd-eang. Byddwn i'n disgrifio'r rhan fwyaf o'r hyn rwyf i'n ei wneud fel aflafar, absẃrd a chomedïaidd. Rwyf i hefyd yn ysgrifennu ac yn perfformio geiriau llafar ac yn creu ffilmiau byr.

Lucy Jones

Artist dawns o Rondda Cynon Taf yw Lucy Jones. Hyfforddodd yn y Northern School of Contemporary Dance cynLucy Jones headshot ymuno ag Emergence - cwmni ôl-raddedig Joss Arnott a Phrifysgol Salford. Ers graddio, mae Lucy wedi perfformio mewn llawer o nosweithiau byrfyfyr, a chymryd rhan mewn labordai archwilio coreograffig gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ransack Dance Company a Phoenix Dance Theatre. Ochr yn ochr â pherfformio, mae Lucy yn hoffi creu Screendance. Mae hi'n dechrau trwy fyrfyfyrio er mwyn creu deunydd symud, cyn defnyddio golygu ôl-gynhyrchu fel offeryn coreograffig. Mae hi'n edrych ymlaen at wthio'r dechneg hon mewn lleoliad safle-benodol ar gyfer prosiect Ein Lle Creadigol.
Naz Syed

Caiff Naz Syed ei hadnabod fel Mary Naz Syed headshotPoppins Fohemaidd Casnewydd, gyda'i gweithdai teithiol a'i chesys yn lledaenu creadigrwydd a charedigrwydd. Hi yw Cyfarwyddwr Ziba Creative, mae’n artist gweledol, yn ymgynghorydd, athro a swyddog ymgysylltu â’r gymdeithas. Mae cydweithio gyda phobl eraill yn sbardun i'w hymarfer, gan gysylltu pobl a'u straeon, eu llesiant, a magu hyder drwy greadigrwydd. Mae'n defnyddio ffurfiau celfyddydol gwahanol gan gynnwys; tecstilau, cerflunio, ffasiwn, cyfryngau cymysg a chollage. Mae Naz yn angerddol dros gefnogi'r celfyddydau yng nghalon y gymuned, gyda thros 20 mlynedd o brofiad. Mae hi wedi bod yn datblygu capsiwl amser gweledol 'Lost Connections' ac Art Clwb ar-lein i gefnogi creadigrwydd yn y gymuned.

Rufus Mufasa

Artist cyfranogol arloesol yw Rufus Mufasa, a hi yw Brenhines croes-gelf. O fod yn Gymrawd yn y Barbican i Rufus Mufasa headshotFardd Preswyl Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, mae Rufus wedi teithio'n rhyngwladol gyda'i chrefft.  A hithau’n artist Hull '19 mewn cydweithrediad â BBC Contains Strong Language, artist preswyl gyda People Speak Up, a bardd preswyl BASW 2020, mae Rufus wedi datblygu gwydnwch personol enfawr drwy ei chelfyddyd. Mae ei gwaith yn anrhydeddu llinach, mamolaeth, y plentyn mewnol a'r bobl rydyn ni'n cwrdd â nhw ar ein llwybr at heddwch.

Stuart H. Bawler

Stuart H. Bawler wyf i, Stuart H BawlerCyfarwyddwr Artistig HUMMADRUZ, Black-Light Theatre of Wales, Theatr Uwchfioled Cymru. Rwyf i'n byw ac yn caru yn Sir Fynwy. Rwyf i'n arbenigo mewn creu sioeau a gaiff eu perfformio'n llwyr dan olau uwchfioled sy'n darlunio cerddoriaeth drwy ddawns, syrcas, pypedwaith a rhithiau. Rydyn ni'n dilyn arddull glasurol mewn Theatrau ac EDM a cherddoriaeth Seicedelig mewn Gwyliau. Mae ein sioeau amlsynhwyraidd yn canolbwyntio ar y gwych, yr hardd a'r llawen. Dydyn ni ddim yn defnyddio iaith lafar, gan ganolbwyntio'n hytrach ar iaith cerddoriaeth, awyrgylch ac ysblander. Yn ddiweddar rydyn ni wedi dechrau ymgorffori Makaton fel iaith weledol i wneud ein gwaith yn fwy hygyrch i bobl ag anawsterau cyfathrebu.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event