Cyfle i gynhyrchu gwaith celf ar gyfer canolfan gymunedol newydd Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER - Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n ei hariannu ac mae disgwyl iddi agor yn Hydref 2021.
Bydd tîm Bryngaer Gudd Treftadaeth CAER yn rhannu lluniau o arteffactau, pobl a digwyddiadau y gallwch greu brasluniau ohonynt sydd ag arwyddocâd i’r prosiect arobryn hwn. Mae’r prosiect yn edrych ar dreftadaeth 6,000 o flynyddoedd oed cymunedau Caerau a Threlái - gan greu gwybodaeth newydd am y gorffennol gyda phobl leol.
Ymunwch â Chaerdydd Creadigol ac eraill yn y sesiwn i gwrdd ag artistiaid eraill, dod i wybod mwy am y prosiect a dysgu mwy am ddulliau braslunio, yn ogystal â chael awgrymiadau am sut i greu braslun gwych!
Byddwn i gyd yn braslunio gyda'n gilydd ar yr un pryd fel grŵp ar Zoom ac, os hoffech i'ch gwaith celf gael ei gynnwys yn y ganolfan gymunedol, bydd cyfle i'w anfon at y tîm yn ystod y sesiwn neu wedi hynny.
16+ oed
Mae croeso i bob lefel o brofiad
Bydd angen i chi fod â’ch papur a'ch pensil eich hun i fraslunio.
Cadwch eich lle yma.
Ar ôl cofrestru, byddwn mewn cysylltiad yn nes at yr amser i roi rhagor o fanylion am sut i baratoi ar gyfer y sesiwn fraslunio.