Diwylliant Cymru i serennu yn Wythnos Cymru Dulyn 9-13 Mawrth 2020
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cyflwyno rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol fel rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Cynlluniwyd yr wythnos i blethu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi â Dydd Gŵyl Padrig ac i hyrwyddo Cymru fel cenedl hyderus, sy’n edrych y tu hwnt i’r gorwel a chenedl gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn cael ei chynnal rhwng 9-13 o Fawrth, canolbwynt Wythnos Cymru Dulyn fydd Cromen Ddigidol Tŷ Cymru yn adeilad y Custom House, sydd hefyd yn gartref i EPIC, Amgueddfa Ymfudo Iwerddon.
Mae digwyddiadau’r wythnos yn canolbwyntio ar feysydd cydweithredu allweddol gan gynnwys busnes; cysylltiadau diwylliannol; academaidd; cenedlaethau’r dyfodol; cyfrifoldeb byd-eang; twristiaeth; treftadaeth; creadigrwydd a iaith yn unol â Strategaeth Ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru. Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn bywiogi’r wledd ddiwylliannol fydd ar gael ac yn canolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau a meithrin cysylltiadau newydd rhwng sectorau celfyddydol a diwylliannol Cymru ac Iwerddon.
Dydd Llun: Amgueddfeydd, Democratiaeth Ddiwylliannol a’r Gair Llafar
I lansio’r rhaglen ddiwylliannol, bydd Amgueddfa Cymru yn cynnal trafodaeth a dathliad o’r bartneriaeth rhwng Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru ac Iwerddon yn dilyn Brexit, partneriaeth sy’n rhoi pwyslais ar gydweithredu rhwng y sefydliadau.
Yna, bydd gweithgareddau Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn dechrau gyda REIC x Y Stamp: Perfformiad Barddoniaeth a’r Gair Llafar, noson amlieithog o farddoniaeth a’r gair llafar i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac i ddathlu’r cysylltiadau diwylliannol hen a newydd rhwng y ddwy genedl. Gan ddarparu llwyfan i’n hieithoedd cynhenid, bydd y digwyddiad hwn yn arddangos doniau llenyddol Cymreig a Gwyddelig.
Dydd Mercher: Canolbwyntio ar ieuenctid, iaith a Chymry ar wasgar
I nodi’r Ddeddf arloesol yng Nghymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, yn cymryd rhan yn lansiad y bartneriaeth gyffrous rhwng platfform ddigidol iaith leiafrifol Iwerddon, TG Lurgan a sefydliad ieuenctid gwirfoddol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, sy’n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i 55,000 o aelodau.
Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn cynnal trafodaeth panel mewn partneriaeth â gŵyl Lleisiau Eraill, gan archwilio themâu ymfudo a hunaniaeth yng Nghymru ac Iwerddon, dylanwad ein hieithoedd a’n diwylliant ar lwyfan rhyngwladol, a sut rydyn ni’n cysylltu ac ailgysylltu â’n Cymry ar wasgar. Huw Stephens o Radio 1 a 6 fydd yn cadeirio'r drafodaeth, gyda chyfraniadau gan Philip King o Ŵyl Lleisiau Eraill, Bethan Kilfoil o RTÉ, y delynores Wyddelig Laoise Kelly a’r cerddorion Lauren Ní Chasaide a Georgia Ruth. Bu’r ddwy yn rhan o brosiect cydweithredol Mamiaith a gafodd ei drefnu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ddiweddar.
Ers 2001, mae Gŵyl Other Voices wedi dod â cherddorion ac artistiaid o bob cwr o'r byd yn flynyddol i Dingle, Iwerddon i godi eu lleisiau. Yn 2019 lawnsiwyd Gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru ac Rialtas na hÉíreann/ Llywodraeth Iwerddon, a'i chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Theatr Mwldan a Triongl ac fe’i darlledwyd ar S4C.
Dydd Iau: Y celfyddydau ac iechyd, dangosiad cyntaf Ewrop o ffilm a rhwydweithio diwylliannol
O fewn y maes Celfyddydau ac Iechyd, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cynnal digwyddiad lle caiff ffilm ysbrydoledig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ‘Reflections’ ei dangos, sy’n seiliedig ar eu rhaglen ‘Dance for Parkinson’s’. Bydd Phil George, CadeiryddCyngor Celfyddydau Cymru yn sgwrsio â Fearghus Ó Conchúir, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, a bydd cyfle i ymarferwyr a lluniwyr polisi o Gymru ac Iwerddon rwydweithio a sgwrsio mewn cyd-destun creadigol.
Yn ogystal â hynny, a mewn partneriaeth â Culture Ireland, bydd digwyddiad rhwydweithio a thrafodaeth bwrdd crwn yn cael ei chynnal, gan archwilio cysylltiadau presennol a
chyfleoedd newydd ar gyfer cydweithredu gan ganolbwyntio ar ddatblygu rhwydweithiau, partneriaethau, cyfleoedd i deithio, cyfnewid sgiliau a datblygu iaith rhwng Cymru, Iwerddon a thu hwnt.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd Gŵyl y Gorwel: noswaith arbennig o gelf, iaith, cerddoriaeth a sgyrsiau. Mi fydd yn roi llwyfan i’r dangosiad cyntaf yn Ewrop o ffilm sain animeiddiedig Rhys a Meinir gan Cian Ciarán (cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd ac un rhan o bump o’r Super Furry Animals) a Bait Studios. Gan gynnwys trac sain wedi’i recordio a’i berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC a barddoniaeth wedi’i hysgrifennu gan Gruffudd Antur a’i hadrodd gan Rhys Ifans (Harry Potter and the Deathly Hallows, The Amazing Adventures of Spiderman ayyb). Mae Rhys a Meinir yn codi ias ac yn cyfleu naws y ddrama yn y stori Gymraeg hynafol hon.
Yn dilyn y dangosiad o Rhys a Meinir, bydd cyfle i’r gwesteion fwynhau perfformiad gan y gantores, y gyfansoddwraig a’r delynoresGeorgia Ruth a sgwrs gyda’r artist digidol Mark James (Cynhyrchydd ffilm PANG! Gruff Rhys), Huw Stephens ac Eluned Hâf o Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Bydd perfformiadau byw gan gerddorion megis Kizzy Crawford a Georgia Ruth yn ystod yr wythnos hefyd.
Dydd Gwener: Arloesi Digidol
Bydd y cysylltiadau rhwng economïau celfyddydol a chreadigol Iwerddon a Chymru yn cael eu hybu yn nigwyddiad rhwydweithio’r Diwydiannau Creadigol o dan arweiniad Clwstwr, y tîm cronfa arloesi digidol gwerth £1m, ac yn y cyfarfod rhwng Siambr Fasnach Prydain ac Iwerddon.
I gloi’r rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol, bydd dangosiad arbennig o albwm weledol Gruff Rhys, PANG!, ac yna sgwrs gyda Gruff cyn ei berfformiad y noson honno i agor Gŵyl Sain Padrig yn Eglwys Gadeiriol Christ Church, sydd bellach wedi gwerthu allan.
Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Mae’r cysylltiadau diwylliannol a ieithyddol rhwng ein chwaer wledydd Celtaidd yn oesol ac yn gyfoes. Mae artistiaid yn dal i addasu straeon gwerin y Mabinogi ac yn rhoi tro cyfoes ar Lawysgrifau ap Huw, ac maen nhw’n cael eu mwynhau gan gynulleidfaoedd ar y ddwy ochr o Fôr Iwerddon. Rydym yn falch o gydweithio â Llywodraeth Cymru yn Nulyn i hyrwyddo diwylliant Cymraeg gyfoes yn Iwerddon. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae’n hynod bwysig fod hunaniaeth diwylliant unigryw Cymru yn cael ei hadnabod yn Iwerddon a thu hwnt. Dyma ein drws ffrynt newydd i’r Undeb Ewropeaidd.”
Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Llywodraeth Cymru:
“Mae gan Gymru ac Iwerddon gymaint o gysylltiadau hyfryd a dwfn ac fe fydd yn bleser cael eu dathlu yn ystod Wythnos Cymru yn Nulyn 2020. Rydyn ni’n ymhyfrydu yn ein cysylltiadau diwylliannol cryf, ond hefyd mae perthynas ein dwy genedl yn cydblethu’n academaidd, mewn busnes ac yn y celfyddydau. Rwy’n hyderus y bydd y berthynas hon yn cryfhau, ac y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’n ffrindiau yn Iwerddon yn parhau.”
Bydd pob digwyddiad gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn hyrwyddo ein gwerthoedd cyffredin ac yn cyflwyno sîn gelf gyfoes lewyrchus, sy’n edrych tuag allan ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Bydd Wythnos Cymru Dulyn yn dod ag ystod eang o bartneriaethau a gweithgarwch at ei gilydd er mwyn arddangos ein cysylltiadau a’n hymrwymiad i barhau i ddatblygu a chynnal y berthynas gref hon.
Gallwch weld manylion llawn y rhaglen, ynghyd â thocynnau ar gyfer y digwyddiadau cyhoeddus ar wefan Wythnos Cymru Dulyn: https://walesweekdublin.thinkorchard.com/cy/