Diwrnod cyntaf Dinas yr Arcedau yng Nghaerdydd

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 22 November 2019

Dydd Sadwrn diwethaf oedd y tro cyntaf i Ddiwrnod Dinas yr Arcedau gael ei gynnal yng Nghaerdydd. Roedd yn dathlu saith arcêd hanesyddol y ddinas ac yn tynnu sylw at dros 100 o fusnesau annibynnol a chreadigol a leolir ynddynt. 

Mae'r saith arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd - Dominions, Heol y Dug, Stryd Fawr, Castell, Wyndham a’r Arcêd Frenhinol - yng nghanol y ddinas ac yn rhan annatod o'i hunaniaeth. Gellid dadlau eu bod yn un o nodweddion mwyaf eiconig Caerdydd. 

Mae crwydro'r ddrysfa o siopau a lleoedd bwyta anarferol, sy'n swatio mewn pensaernïaeth Fictoraidd ac Edwardaidd hanesyddol, yn brofiad siopa unigryw. Er bod y siopau wedi newid dros y blynyddoedd, mae'r arcedau'n parhau i fod â chysylltiad cynhenid ​​â'r gorffennol. 

I godi proffil siopau annibynol y ddinas a sefydlu Caerdydd fel Dinas yr Arcedau, lansiwyd ymgyrch gan FOR Cardiff. Ers ei sefydlu yn 2018, mae ymgyrch Dinas yr Arcedau, wedi mynd o nerth i nerth. Cafodd ei gydnabod yn ddiweddar â Gwobr Rhagoriaeth Cyflawniad Downtown (Downtown Achievement Award of Excellence) gan Gymdeithas Ryngwladol Downtown (International Downtown Association) yn ei 65fed cynhadledd flynyddol. Yn dilyn y llwyddiant yma, crëwyd ddiwrnod i hybu masnach a dathlu un o nodweddion mwyaf unigryw Caerdydd. 

Ddydd Sadwrn (16 Tachwedd) fe wnaeth Diwrnod Dinas yr Arcedau adfywio’r saith arcêd gyda digwyddiadau, gwisg ffansi a cherddoriaeth. Roedd y caffis, y siopau a’r lleoedd bwyta ar agor drwy’r dydd a chafwyd cerddoriaeth fyw gan artistiaid lleol yn atseinio trwy'r arcedau tan yn hwyr y nos. Y nod oedd hybu masnach a chefnogi'r rhwydwaith o fusnesau annibynnol yn ogystal ag amlygu eu hatyniad parhaus. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda mwy na 90 o fusnesau yn cymryd rhan a cynydd o 6% yn y nifer o bobl yn ymweld â'r arcedau ers llynnedd. Yn ol arolwg cynhaliwyd gyda'r busnesau, fe groesawodd Diwrnod Dinas yr Arcedau mwy na 300 o ymwelwyr ychwanegol a chynydd o 40% mewn gwerthiant. 

Meddai Carolyn Brownell o FOR Cardiff: "Mae 75% o'r busnesau wedi galw'r diwrnod yn dda iawn neu'n ardderchog. Yn fwy arwyddocaol honnodd y mwyafrif o'r busnesau bod gwerthiant wedi cynyddu, rhai'n honni cynnydd o dros 60% o gymharu gyda dydd Sadwrn arferol felly roeddem ni'n falch iawn gyda'r canlyniad." 

Diwrnod arbennig lawr yn arcêds y ddinas heddiw! Diolch o galon i’r holl artistiaid am eu perfformiadau hyfryd ✨

A wonderful day down the arcades today! Thanks so much to all artists for their special performances today ✨ pic.twitter.com/Soa8hsFwU0

— PYST (@pystpyst) November 16, 2019

Roedd ystod eang o ddigwyddiadau a phethau i'w gwneud yn ystod y diwrnod, o farddoni yn Waterloo Tea, dwy sioe ffasiwn, arddangosfa gelf y prosiect Arcedau, blasu gin yn Gin & Juice, a choctel arbennig ar gyfer y diwrnod. PYST, label gerddoriaeth o Gaerdydd, oedd yn curadu'r cerddoriaeth byw. Mwy o wybodaeth am y digwyddiadau a'r busnesau oedd yn rhan o'r diwrnod, yma. Sôn am ddigwyddiadau poblogaidd ar y diwrnod, meddai FOR Cardiff: "Roedd y teithiau o Morgan Quarter wedi gwerthu allan o fewn dyddiau, gan ddangos bod pobl eisiau dysgu mwy am yr arcedau a'u hanes, ac rydym ni am roi mwy o bwyslais ar hyn flwyddyn nesaf." 

It was @cityofarcades_ day this weekend!

Full Video : https://t.co/r9wRW2ohkU pic.twitter.com/Tbup0EVDa5

— Cardiff TV (@CardiffLocalTV) November 19, 2019

 

Mae'r arcedau'n gartref i nifer o dalentau creadigol gan gynnwys gemydd Cymreig annibynnol, Buddug, boutique priodasol Amy Mair, yn ogystal â siopau ffasiwn cynaliadwy Sobeys, Prince a Pauper a Hobos. Ar hyn o bryd, Waterloo Tea Gardens sydd ar frig rhestr y 10 busnes gorau a ddewiswyd gan ddinasyddion Caerdydd.

Fe wnaethom ofyn i FOR Cardiff pam mae’r Arcedau yn rhan mor bwysig o hunaniaeth Caerdydd yn eu tyb nhw a beth yw eu cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer 'Dinas yr Arcedau'.

Gofynnon ni i FOR Cardiff pam eu bod nhw'n credu bod yr Arcedau'n rhan mor bwysig o hunaniaeth Caerdydd a beth yw chynlluniau'r dyfodol ar gyfer Dinas yr Arcedau: "Maen nhw'n rhan o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd mor unigryw, does dim un ddinas arall sy'n gartref i'r un fath o Arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd. Rydym ni'n awyddus i ddod â'r digwyddiad yn ôl. Rydym ni'n siarad gyda'r busnesau i ofyn pryd fyddai'r amser gorau i wneud hynny."

Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff:

“Mae'r arcedau siopa Fictoraidd ac Edwardaidd a'r busnesau annibynnol yn rhan o wead canol dinas Caerdydd. Maent yn cynnig profiad siopa unigryw.

“Mae Diwrnod Dinas yr Arcedau yn ymwneud â dathlu'r hyn maen nhw'n ei gynnig i'r ddinas ac annog mwy o bobl i ddewis Caerdydd fel eu cyrchfan siopa.  Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o fusnesau yn cymryd rhan a gobeithiwn, trwy gynnal digwyddiadau ochr yn ochr â chynigion arbennig, y byddan nhw'n denu digonedd o gwsmeriaid newydd.”

Did you visit or take part in City of Arcades Day? The official event photos are now live on our Facebook page! https://t.co/xOu9TAGMw2 pic.twitter.com/SNfZTMSZY0

— City of Arcades (@cityofarcades_) November 18, 2019

Crwydro'r Arcedau.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event