Mwy am DIVERGE: Gofod misol ar gyfer pobl credigol niwroamrywiol
Tom ydw i, cynhyrchydd theatr a digwyddiadau byw, llawrydd, o Gaerdydd. Mae gennyf ADHD a Dyslecsia ac rwyf am greu mannau lle gall pobl greadigol niwrowahanol ddod at ei gilydd a meithrin undod a chefnogaeth ac i gydweithio ar brosiectau.
Rwy’n cynnal digwyddiad gyda Caerdydd Creadigol sy’n fan i gynhyrchwyr ac artistiaid niwrowahanol* sy’n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru, ddod at ei gilydd am ddiwrnod o weithio ar y cyd, gyda rhywbeth ychydig yn wahanol!
*efallai fod gennych ddiagnosis ffurfiol neu efallai eich bod yn hunan-adnabod
Cynllun ar gyfer y diwrnod
- 10:00 - 11:00 : Cofrestru wrth y ddesg flaen ac ymlacio yn yr ystafell, yn barod i ddechrau'r diwrnod o weithio
- 11:00 - 11:30 : Paned a 'dysgu pwy sydd yn yr ystafell', wedi ei gynnal gan Tom
- 11:00 - 13:00 : Amser i weithio ar y cyd (gallwch fynd am ginio amser yma)
- 13:00 - 14:00 : 15 munud o gyflwyniad ysbrydoledig gyda C+A ac amser i adlewyrchu (Alex Kegie, founder of Nurologik)
- 14:00 - 16:00 : Amser i weithio ar y cyd
- 16:00 - 17:00 : Sesiwn ‘Trafod Materion Gyda’n Gilydd’: Bydd Tom yn hwyluso sgwrs i drafod unrhyw beth yr ydym am weithio drwyddo gyda'n gilydd/mewn parau
- 17:00 - 17:30 : Y diwrnod yn dirwyn i ben/hanner awr i orffen unrhyw beth brys!
Mae croeso mawr i chi sgwrsio a chymryd galwadau yn ystod y dydd - dewch â chlustffonau a byddwch yn ymwybodol o lefelau sain oherwydd efallai y bydd rhai pobl eisiau treulio'r amser yn canolbwyntio ar ebyst / galwadau. Cymerwch seibiannau oddi wrth y sgrîn yn ôl yr angen.
Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad neu gwestiynau, rhowch wybod i mi trwy ebostio tombevanwork@gmail.com
Archebu eich lle
Cofrestru ar gyfer DIVERGE Ebrill.
Comisiynwyd a chefnogir y prosiect hwn gan Lawryddion Creadigol Cymru. Rhan o gynllun y Comisiwn Dyfodoliaeth Lawrydd, a ariennir gan Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Ariannu’r Celfyddydau drwy’r Loteri Genedlaethol.