Digwyddiadau mawr/mannau rhwydweithio

Mannau a Hybiau Creadigol: Caerdydd

Mae mannau yn bwysig i bobl greadigol. Mannau i feddwl, gwneud, cwrdd neu gydweithio.

Dyna pam rydyn ni wedi llunio rhestr i chi o'r mannau a'r hybiau creadigol sydd ar gael i'w llogi yng Nghaerdydd. P'un a oes angen lle arnoch i ymarfer neu gael cyfarfod, gobeithiwn y bydd y mannau hyn yn rhoi lle i chi wneud yr hyn sy’n bwysig i chi.

Cofiwch gysylltu â ni a rhoi gwybod i ni os ydym wedi methu rhai.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 September 2021

Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru

Cyntedd atriwm gwydr a theras awyr agored yn edrych dros Barc Bute

Castell Caerdydd

Llogi ystafelloedd corfforaethol a digwyddiadau ar dir y castell

Clwb Kuku ym Mhlas y Parc

Lleoliad ar thema Moroco gyda bar

Canolfan Gymunedol Butetown

Prif neuadd fawr, gyda lle i 200 a neuadd uwch gyda lle i 70

Neuadd y Ddinas, Caerdydd

7 ystafell sy'n addas ar gyfer digwyddiadau ar gael i'w llogi

Prif Ystafell y Tramshed

Lle i 1000 sefyll

Oriel Glanfa’r Gorllewin, Marchnad Jacob

Lleoliad llawr uchaf gyda chaffi ystafell haul ar y to

Theatr Reardon Smith Hyd at 300 o bobl ar gyfer cynhadledd, cyfarfod cyhoeddus, cyngerdd neu ddarlith
Chapter Oriel, Theatr, Sinemâu, Cyntedd, Caffi, Awditoriwm
Motorpoint Arena Llogi corfforaethol ac ar gyfer derbyniadau, yn hyblyg ar gyfer hyd at 5000 o gynrychiolwyr
Depot 22,000 o droedfeddi sgwâr - lle ar gyfer hyd at 1600
Spit & Sawdust Parc sglefrio i'w logi'n breifat
Parkgate Hotel Adeilad rhestredig - ystafell gynadledda gyda lle ar gyfer hyd at 432 ac ystafell fach ar gyfer cyfarfodydd
Canolfan iâ Cymru Cynadledda a 3 ystafell gyfarfod gyda lle ar gyfer 3500 o gynrychiolwyr
Sophia Gardens Stadium Cynadledda ar gyfer hyd at 2000, lle ar gyfer 800 mewn arddull theatr, cyfarfodydd llai
Atriwm - Prifysgol De Cymru Lleoedd trafod, stiwdio ddawns, stiwdio deledu, sinema, darlithfa
Coleg Caerdydd a'r Fro Theatr, Atriwm, Stiwdio Ddawns, Bwyty
Stadiwm Principality 6 lolfa fawr a 113 o ystafelloedd lletygarwch
Ardal Weinidogaeth Dwyrain Caerdydd 5 adeilad unigol pob un â'i arddull a chymeriad unigryw ei hun

Norwegian Church Arts Centre

Oriel, Neuadd a photensial i ddefnyddio'r lleoliad llawn

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event