Deyah yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020

Albwm Deyah, Care City, yn ennill y 10fed wobr gerddoriaeth newydd flynyddol

Y seremoni ddigidol yn cynnwys ymddangosiad annisgwyl gan Michael Sheen

Care City album cover

 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 November 2020

Dyma gyhoeddi mai Deyah yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 gyda’i halbwm Care City. Am y tro cyntaf yn hanes 10 mlynedd y wobr gerddoriaeth newydd, cyhoeddwyd yr enillydd trwy seremoni ddigidol a oedd yn cynnwys ymddangosiad annisgwyl gan Michael Sheen.

Dewisodd panel o arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth yr enillydd o restr fer o 15 albwm, gan arddangos yr ystod o dalent greadigol yng Nghymru ac o Gymru. Dewiswyd yr enillydd, Care City gan Deyah, fel albwm pwerus a gafodd ei hunan-gynhyrchu a’i hunan-ryddhau sy'n asio curiadau hamddenol, llif telynegol a chân achlysurol gan yr MC o Gaerdydd sy'n mynd i'r afael â phynciau fel dibyniaeth, unigedd ac iachâd. Roedd albwm blaenorol Deyah, Lover Loner, hefyd ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, yn yr un flwyddyn ag y cafodd ei hychwanegu ar Restr Hot List BBC Introducing ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

 Yn ei haraith dderbyn, dywedodd Deyah: "Mae ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig gyda Care City yn syndod llwyr ond yn anrhydedd llwyr. Mae'n ddarn o waith sy'n dogfennu'r cyfnod anoddaf i mi fynd drwyddo erioed ac iddo gael ei enwebu heb sôn am ennill - dwi mor ddiolchgar! Gyda'r albwm yma dwi eisiau addysgu pobl i fyw bywyd heb bwysau o ddisgwyliadau."

Dywedodd Huw Stephens, cyd-sylfaenydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, “Gwnaeth Care City gan Deyah argraff fawr ar y beirniaid gyda’i halbwm personol, barddonol a chynhyrchwyd yn gywrain. Mae hi'n artist Cymreig ifanc sydd wir yn gwneud ei marc ar y sin gerddoriaeth, ac rydyn ni wrth ein boddau mai hi yw’r 10fed derbynnydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae Care City yn wrandawiad rhyfeddol, mae ei geiriau a'i llif yn rhagorol.”

Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein, a ffrydiwyd trwy welshmusicprize.com ac amam.cymru, ar Zoom gyda'r cyflwynwyr, artistiaid, beirniaid a rheithwyr, gan ddisodli'r digwyddiad byw arferol oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Roedd yn cynnwys ymddangosiad annisgwyl gan Michael Sheen, hyrwyddwr hirsefydlog cerddoriaeth a'r celfyddydau yng Nghymru.

Dywedodd Michael Sheen, “Mae’r cyfoeth anhygoel, y dychymyg, y creadigrwydd a gynrychiolir gan yr holl enwebeion eleni yn rhyfeddol. Mae wedi cipio fy anadl. Mae'n gwneud i mi deimlo'n hynod falch o wybod bod pobl ledled y byd yn gallu gweld pwy ydym ni yng Nghymru trwy'r gerddoriaeth yma, oherwydd chi yw ein llais yn rhyngwladol. "

Y 15 albwm ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 oedd:

  • Mirores – Ani Glass

  • Chaos Wonderland – Colorama

  • Ofni – Cotton Wolf

  • Care City – Deyah

  • Steel Zakuski – Don Leisure

  • Mai – Georgia Ruth

  • Pang! – Gruff Rhys

  • Eyelet – Islet

  • Bring Me The Head of Jerry Garcia – Keys

  • A Vision In The Dark – Kidsmoke

  • Sbwriel Gwyn – Los Blancos

  • Valley Boy – Luke RV

  • Zone Rouge – Right Hand Left Hand

  • Everything Solved At Once – Silent Forum

  • Iaith Y Nefoedd – Yr Ods

Bellach mae Deyah yn ymuno â rhestr o enillwyr sy'n cynnwys Adwaith (2019), Boy Azooga (2018), The Gentle Good (2017), Meilyr Jones (2016), Gwenno (2015), Joanna Grusome (2014), Georgia Ruth (2013), Future of the Left (2012), Gruff Rhys (2011).

Datgelodd seremoni Gwobr Gerddoriaeth Cymru hefyd mai Eädyth, Mace The Great a Malan oedd enillwyr Gwobr Triskel eleni. Crëwyd Gwobr Triskel gan dîm Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019 i ddathlu a chefnogi tri artist sy'n dod i'r amlwg sy'n cynnig dyfodol disglair i gerddoriaeth yng Nghymru. Gyda chefnogaeth Help Musicians, mae'r artistiaid i gyd yn derbyn pecyn cymorth diwydiant gan gynnwys dyfarniad datblygiad creadigol o £500, mynediad am ddim i'r Cynllun Iechyd Clyw Cerddorion (MHHS) a dwy awr o gynllunio busnes gydag arbenigwr yn y diwydiant cerddoriaeth.

Roedd panel beirniaid Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni yn cynnwys: Angharad Jenkins (cerddor / cyfansoddwr), Daniel Minty (Minty’s Gig Guide), Emma Zilmann (Bluedot / Kendal Calling), Ffion Wyn (Ladies of Rage), Gemma Cairney (BBC Radio / awdur), Mark Sutherland (Music Week), Polly James (Radio X), Sian Eleri Evans (BBC Radio Cymru / Folded Wing).

Ariennir 10fed Gwobr Gerddoriaeth Gymreig gan Lywodraeth Cymru trwy Creative Wales, gyda chefnogaeth gan Help Musicians.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas; “Mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn darparu llwyfan rhagorol i arddangos y gorau o Gerddoriaeth Cymru, a hoffwn longyfarch Deyah am ennill y wobr wrth i ni ddathlu 10 mlynedd o Wobr Gerddoriaeth Gymreig.”

Gall pobl glywed mwy gan artistiaid ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 gyda chyfres podlediad newydd o'r enw Gwobr Gerddoriaeth Gymreig: Sgyrsiau. Mae'r 15 pennod yn cynnwys sgyrsiau manwl gyda phob un o'r artistiaid am eu halbwm enwebedig, dan arweiniad cyfrannwr unigryw. Rhyddheir y gyfres lawn ddydd Llun 23 Tachwedd trwy AM, Apple Podcasts a Spotify ac mae'n cynnwys cyflwynydd y BBC Bethan Elfyn yn siarad â Georgia Ruth, y cerddor a'r cynhyrchydd Shawn Lee yn siarad â Colorama, a'r newyddiadurwr a'r darlledwr Jude Rogers yn siarad â Gruff Rhys.

I gael mwy o wybodaeth am Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ewch i welshmusicprize.com neu dilynwch @welshmusicprize #WMP2020

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event