Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr ar leoliad: Abby ac Olivia

Yr haf hwn, mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o gael cwmni dau fyfyriwr ar leoliad sy’n astudio ar gyfer MA mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dewch i gwrdd ag Abby ac Olivia a darganfod mwy am eu gwaith gyda Chaerdydd Creadigol.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 May 2024

Abby Capern - Lleoliad Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Abby Capern

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cefndir creadigol

Abby ydw i, ac ar hyn o bryd rwy’n dilyn gradd meistr mewn rheolaeth yn y celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Y llynedd, fe wnes i raddio o Gonservatoire Prifysgol Chichester gyda BA (Anrh) mewn Theatr Gerddorol. Rwyf wedi bod yn perfformio ers oeddwn i'n 7 mlwydd oed, a arweiniodd at gyfleoedd fel taith gerddoriaeth ym Mharis, yn ogystal â pherfformiad yn y West End gyda'r Pauline Quirke Academy yn 2019. Yn yr ysgol, astudiais Gelf a datblygais gariad at arlunio, rhywbeth rwy'n parhau i'w ddilyn ochr yn ochr â'm hastudiaethau.

Cefais fy ngeni ym Mryste ond ces i fy magu yng Ngogledd Somerset. Yn ystod fy mhlentyndod, treuliais gryn dipyn o amser yng Nghymru, yn ymweld â lleoliadau celfyddydol a diwylliannol fel Sain Ffagan a Chanolfan Mileniwm Cymru i wylio sioeau. O oedran ifanc y syrthiais mewn cariad â’r celfyddydau, a’r llynedd, dechreuais weithio yn Amgueddfeydd Bryste ar draws eu safleoedd. Mae cael fy nhrochi yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wedi tanio fy angerdd i weithio yn y sector hwn.

Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth ac yn mynychu amrywiaeth o gyngherddau a gigs trwy gydol y flwyddyn, gyda rhai ohonynt yn digwydd yng Nghymru. Un o fy hoff atgofion yw mynd i weld y Stereophonics a Tom Jones gyda fy nhad yn Stadiwm Principality yn 2022.

Dywedwch wrthym am y gwaith rydych yn ei wneud yng Nghaerdydd Creadigol

Yng Nghaerdydd Creadigol, rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ochr yn ochr â Carys yn y tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Er mai dim ond ychydig wythnosau sydd wedi mynd heibio, rwyf eisoes yn mwynhau'r rôl hon yn fawr. Fel rhan o’m cyfrifoldebau, rwy’n dyfeisio cynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, yn ogystal â chreu fy ymgyrchoedd fy hun, yr wyf yn bwriadu eu cyflawni yn ystod fy amser yma. Ymhellach, rydw i’n cynorthwyo Jess a Carys gyda’u hymgyrchoedd parhaus ac yn hwyluso digwyddiadau Caerdydd Creadigol.

Rwy’n cydweithio â Jess ac Olivia ar brosiectau fel y digwyddiad ar 10 Gorffennaf, sy’n gyffrous iawn. Rwy’n mwynhau’r cyfle i arsylwi ar waith Olivia yn ystod ei lleoliad a dysgu o’i phrofiad.

Hwn oedd fy lleoliad delfrydol, felly rwy'n hynod ddiolchgar ac yn gyffrous i fod yn gweithio yma.

Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl graddio?

Ar ôl i mi raddio, rwy'n gobeithio cael swydd mewn marchnata, cyfathrebu, neu greu cynnwys. Rwy'n awyddus i weithio mewn unrhyw faes yr wyf yn angerddol amdano, sy'n cwmpasu ystod eang, fel y bydd unrhyw un sy'n fy adnabod yn tystio i'm natur angerddol.

Rwy'n anelu at weithio o fewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar y celfyddydau, diwylliant, theatr neu gerddoriaeth. Mae gen i rai swyddi delfrydol mewn golwg, yn amrywio o rolau marchnata mewn sefydliadau fel y V&A Museum i theatrau fel y Bristol Old Vic. Fy nod yw gweithio i sefydliadau a’m hysbrydolodd ac a daniodd fy angerdd dros y celfyddydau yn ystod fy mhlentyndod, gan ganiatáu i mi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Ar wahân i hyn, un o fy mreuddwydion yw gweithio ym maes marchnata digidol a chreu cynnwys i Glwb Pêl-droed Lerpwl, gan fod pêl-droed yn angerdd gwirioneddol i mi, a byddai'r cyfle i weithio i fy nghlwb annwyl yn gwireddu breuddwyd.

Olivia Coles - Lleoliad Strategaeth a Pholisi

Olivia Coles

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cefndir creadigol

Rydw i wedi bod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd fel darlunydd llawrydd ar ôl graddio o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, ond dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydw i wedi dod yn ymwneud yn fwy â'r byd celfyddydol annibynnol, cymunedol yng Nghaerdydd. Gan adeiladu ar y gwaith hwnnw, rwyf wedi darganfod bod fy angerdd dros y sector creadigol wedi datblygu’n awydd i hwyluso prosiectau sy’n fwy na’m harfer fy hun yn unig, sydd wedi fy arwain yn y pen draw at ddilyn cwrs Rheolaeth y Celfyddydau yn CBCDC.

Dywedwch wrthym am y gwaith rydych yn ei wneud yng Nghaerdydd Creadigol

Trwy fy astudiaethau, rydw i wedi ennill cryn dipyn o wybodaeth a sgiliau newydd nad oedd gen i o'r blaen, ac roedd gweithio gyda Chaerdydd Creadigol ar gyfer fy lleoliad proffesiynol yn ymddangos yn gyfle gwych i roi'r sgiliau hynny ar waith. Rwy'n gweithio'n agos gyda Jess ar wahanol agweddau sy'n ymwneud â strategaeth Caerdydd Creadigol a gwaith llunio polisïau, wrth i baratoadau fynd rhagddynt ar gyfer eu digwyddiad lansio ym mis Gorffennaf. Yn ogystal â’r gwaith hwn, rwy’n cael y cyfle hefyd i gynorthwyo gyda chyflwyno’r ystod eang o ddigwyddiadau rhwydweithio creadigol y mae Caerdydd Creadigol yn eu hwyluso o ddydd i ddydd.

Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl graddio?

Fy nod yw gweithio'n benodol ym maes y celfyddydau gweledol, lle mae fy angerdd mwyaf. Er bod yr union rôl yn dal i fod ychydig yn amwys, byddai helpu i wneud mannau celfyddydol yn fwy hygyrch yn rhoi boddhad mawr. Yn hanesyddol mae cymaint wedi’u cau allan o’r mannau hyn, ac mae’r stigma hwnnw i’w deimlo o hyd. Mae ehangu mynediad – i’r rhai sy’n arddangos neu’n creu gwaith, ac i gynulleidfaoedd sy’n ymgysylltu â’r gofodau a’r gelf sy’n cael ei arddangos – yn bwysig iawn i mi. Er nad yw’r rôl benodol wedi’i diffinio’n llwyr, rwy’n edrych i ddatblygu fy rhwydwaith, gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau, ac ehangu fy set sgiliau. Yn y pen draw, bydd hynny’n fy ngalluogi i hwyluso rhaglenni celfyddydol mwy cynhwysol a hygyrch.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event