Derbynnydd Drws y Llwyfan

Cyflog
£10.90
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
29.09.2023
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 15 September 2023

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Derbynnydd Drws y Llwyfan

Cyflog:£10.90 yr awr

Dyddiad Cau: 29/09/2023

Dyddiad Cyfweld: 03/10/2023

Amdanom ni/Ein Hadran:

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Mae swydd Derbynnydd Drws y Llwyfan yn dod o dan swyddogaeth Gweithrediadau Busnes y Ganolfan ac mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau ein bod yn cynnig ‘Croeso Cynnes Cymreig’ i ymwelwyr, staff a pherfformwyr ar wahanol lefelau, yn ogystal â bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel.

Gofynion Allweddol:

  • Ymchwilio syniadau posibl ar gyfer gwaith prosiect ac effeithlonrwydd adrannol.
  • Cynorthwyo’r tîm a’r maes busnes ehangach i baratoi a chyflawni gwaith prosiect yn ôl yr angen.
  • Cyfarfod a chyfarch yr holl ymwelwyr, staff a pherfformwyr mewn modd cymwynasgar, cwrtais a chyfeillgar.
  • Cydlynu gwybodaeth ar gyfer cwmnïau sy'n ymweld.
  • Derbyn ymholiadau ffôn, sicrhau bod galwadau’n cael eu trosglwyddo’n effeithlon, cymryd negeseuon, a delio ag ymholiadau’n broffesiynol yn ôl yr angen.
  • Dosbarthu negeseuon, post mewnol a phost sy'n cyrraedd ar gyfer y Ganolfan, sefydliadau preswyl, a manwerthwyr.
  • Darparu safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid i'r holl ymwelwyr, staff a pherfformwyr.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • Cyflogwr cyflog byw go iawn
  • Mynediad i bensiwn Now
  • Hyblygrwydd o ran oriau gwaith – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweithio o amgylch eich bywyd personol a'ch ymrwymiadau
  • Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
  • Gostyngiad o 20% yng nghaffis a bwytai’r Ganolfan
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.