Derbynnydd

Cyflog
£12.60 yr awr
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
17.06.2025
Profile picture for user lizzy

Postiwyd gan: lizzy

Dyddiad: 23 May 2025

Mae NoFit State yn dymuno penodi rhywun i ymuno a thim cryf ac effeithiol y dderbynfa. 

Mae gwaith derbynfa yn un o rolau pwysicaf y cwmni, sy'n sicrhau bod rhaglen ddosbarthiadau a rhaglen gweithgareddau cymunedol y cwmni'n rhedeg yn esmwyth a'u cefnogi, a chydweithio'n agos â'r tîm gweinyddol. Mae'n rhaid eich bod yn drefnus, yn frwd, yn ddeinamig ac yn gyfeillgar gan gyd-fynd â gwerthoedd y sefydliad. Byddwch yn cydweithio â'n cymuned amrywiol ac yn trin ei haelodau ag urddas a pharch. Cawn ein hysbrydoli'n barhaus gan y pethau rhyfeddol y gall pobl gyffredin eu gwneud ac rydym yn cynnig awyrgylch cynhwysol i bawb.

Rydym yn gweithio i roi cyfleoedd hygyrch a chreadigol i bawb i ymwneud â chelfyddyd unigryw syrcas gyfoes, ac rydym yn annog pobl i feithrin hunan-fri, i fynegi eu creadigrwydd ac i feithrin perthynas â'u cymuned, gan ddysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd.

Nofit State yw’r mwyaf o gwmnïau syrcas gyfoes teithiol y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, mae'r cwmni'n dod i gysylltiad â 120,000 - 150,000 o bobl o bob oedran a chefndir o Gymru, y Deyrnas Unedig a'r byd.

I gael gwybod rhagor ac ymgeisio: https://www.nofitstate.org/gyrfaoedd

Oriau gwaith: Rhan amser

Cyflog:  £12.60 yr awr

Lleolaiad: Caerdydd

Dyddiad cau: 10am, dydd Mawrth 17 Mehefin

 

 

Ymunwch â ni!

 

Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal.  Anfonwch eich ceisiadau at jobs@nofitstate.org

Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.