Ddrama 48 Awr

01/12/2024 - 19:30
Butetown Community Centre
Profile picture for user National Theatre Wales

Postiwyd gan: National Theat…

online@nationaltheatrewales.org

Digwyddiad TEAM Collective gan Gavin Porter

Bydd y gwneuthurwr ffilm, dogfen a theatr Gavin Porter yn gweithio gydag aelodau o’n Young Collective a phobl ifanc eraill o Gaerdydd i ddyfeisio darn gwreiddiol o theatr mewn dim ond 48 awr!

Mae’r prosiect cyffrous hwn yn rhoi cyfle i’r gwneuthurwyr theatr, actorion a cherddorion ifanc gydweithio i greu darn unigryw o theatr mewn un penwythnos yn unig. Bydd y canlyniad terfynol yn cael ei berfformio i gynulleidfa fyw ar ddydd Sul 1 Rhagfyr am 8pm.

Does dim sgript, dim thema, dim gwisgoedd, dim technoleg, does dim byd wedi'i gynllunio ymlaen llaw.
Felly mynnwch eich tocynnau am ddim nawr a darganfyddwch beth mae ein pobl ifanc yn ei greu mewn dim ond 2 ddiwrnod.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event