Mae Caerdydd Creadigol yn 10 oed!
Ymunwch â ni am noson arbennig o fyfyrio, dathlu a chysylltu wrth i ni nodi 10 mlynedd o Gaerdydd Creadigol – degawd o ddod â chymuned greadigol y ddinas a'r rhanbarth ynghyd.
Disgwyliwch adloniant, diodydd a chacen, a chlywch gan amrywiaeth o bartneriaid ac aelodau tîm Caerdydd Creadigol wrth i ni ddathlu ein taith ac edrych ymlaen at ddyfodol y rhwydwaith, a sut allwch chi gymryd rhan.
Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth fyw gan enillwyr Gwobr Triskel 2025 SOURCE, cydweithfa o Gaerdydd sy'n cyfuno rhythmau enaid â synau electronig a harmonïau lleisiol cyfoethog, a set DJ gan Press Play gyda Stacey sy'n adnabyddus am ei setiau cymysgu genres a'i pherfformiadau egnïol i gloi'r noson.
Byddwn hefyd yn rhannu fideos a straeon newydd sy'n tynnu sylw at y bobl a'r prosiectau sy'n llunio sîn greadigol Caerdydd.
Noson i ddathlu ein cymuned greadigol; y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
*Os na allwch fynychu mwyach, canslwch eich tocyn fel bod cyfle i rywun arall ymuno â ni.
