Dathlu 21 mlynedd o g39

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 July 2019

Mae G39 yn sefydliad sy'n cael ei rhedeg gan artistiaid ac mae'n ofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd. Mis yma, mae'r sefydliad yn dathlu 21 mlynedd ers lansio yn 1988. Am y 21 mlynedd diwethaf maen nhw wedi trefnu a chyflwyno rhaglen gyhoeddus eang o weithgareddau, o arddangosfeydd mawr, cyflwyniadau a symposia ffurfiol i brosiectau arbrofol a digwyddiadau cymdeithasol. I ddathlu eu pen-blwydd yn 21 oed, dyma ni'n gofyn 21 o gwestiynau i fyfyrio ar y 21 mlynedd diwethaf a chlywed eu gweledigaeth am y dyfodol. 

  1.  Beth yw ystyr g39? 
    Daw ein henw o’n cyfeiriad cyntaf – 39 Arcêd Wyndham – ac ystyr y ‘G’ yw galeri. Pan ddechreuon ni ym 1998, nid oeddem yn disgwyl cael lleoliad parhaol; yn hytrach, gwnaethom ragweld defnyddio sawl lleoliad dros dro o amgylch y ddinas ar gyfer ein harddangosfeydd. Byddai pob un yn dilyn y system rifo hon (roedd hefyd gennym g02 a g-LH). Ond yna daeth ein lleoliad yn rhif 39 yn barhaol – ac felly’r enw!

  2. Sut byddech chi’n disgrifio g39 mewn tri gair?  
    cyfoes – creadigol – cymuned

  3. Allwch chi ddweud wrthym am dîm g39?
    Mae g39 yn gallu digwydd oherwydd ymdrechion rhwydwaith eang o bobl. Mae gennym dîm o chwe aelod o staff rhan-amser wrth ein craidd (mae pob un ohonynt wedi hyfforddi’n artistiaid a/neu mae ganddynt eu hymarfer celf eu hunain y tu hwnt i g39). Ac ni fyddem yn gallu gwneud yr hyn rydym ni’n ei wneud heb ein rhwydwaith ehangach o weithwyr llawrydd proffesiynol (technegwyr, dylunwyr, curaduriaid ac ati), yn ogystal â thîm o wirfoddolwyr ymrwymedig.

  4. Pam gwnaethoch ddewis sefydlu g39 yng Nghaerdydd?
    Mae’r cyd-sylfaenydd, Anthony Shapland yn dod o dde Cymru – ar ôl graddio ym 1996 cafodd brofiad o’r sefyllfa a gynhelir gan artistiaid yn Llundain, a gwelodd y potensial i gyflwyno’r syniad hwn yn ôl adref lle nad oedd cyfleoedd arddangos rheolaidd na mannau ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa.

  5. Beth sy’n eich ysbrydoli chi am fod yma?
    Trwy weithio yn y celfyddydau, rydych yn profi ewyllys a chymorth cryf ar y cyd ar draws y sector nad ydych bob amser yn eu gweld yn y sîn gelfyddydol mewn dinasoedd (meddyliwch am yr ymgyrch Caerdydd Heb Ddiwylliant, ac adroddiad Sound Diplomacy's Music City yn fwy diweddar). Mae’n nodwedd na ddylem ei chymryd yn ganiataol.

  6. Sut beth oedd y sîn gelfyddydol yng Nghaerdydd ym 1998?
    Roedd presenoldeb artistiaid da yn y ddinas. Roedd llawer wedi digwydd i greu amgylchedd gweithio da i artistiaid, ond yn y blynyddoedd hyd at 1998, collwyd sawl stiwdio i artistiaid yn dilyn ei gilydd ar draws y ddinas. Roeddem am sicrhau bod arfer artistig cyfoes yn dod yn weladwy iawn unwaith eto a bod artistiaid yn gallu cysylltu â’i gilydd a chyda’u cynulleidfaoedd.

  7. Faint o bobl sydd wedi mwynhau celf yn g39 dros y 21 mlynedd diwethaf?
    Rydym wedi croesawu tua 160,000 o bobl drwy ein drysau – mae hynny’n gyfwerth ag oddeutu hanner poblogaeth Caerdydd. 

  8. Faint mae g39 wedi newid ers ei lansio ym 1998?
    Mae wedi newid yn sylweddol o ran ein maint a’n graddfa (mae bellach gennym 6,700 troedfedd sgwâr o’i gymharu â 350 troedfedd sgwâr pan ddechreuon ni). Ac wrth gwrs, nid oedd gennym bethau fel ffrydiau Instagram bryd hynny. Ond rydym yn parhau i weithio’n unol â’r union flaenoriaethau â phan wnaethon ni agor y drysau am y tro cyntaf ym 1998 – i gefnogi artistiaid ar ddechrau eu gyrfa, a chreu cyfleoedd i’r cyhoedd gael profiad o gelf gyfoes yng Nghymru. 

  9. Beth yw eich hoff atgof hyd yma?
    Gormod i sôn amdanynt! Mae bob amser yn werth chweil gweld yr artistiaid rydym ni’n eu cefnogi yn mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych. A’r eiliadau hynny pan rydych chi’n gallu gweld aelod o’r gynulleidfa yn cael profiad dwys yn yr oriel – mae hynny'n wirioneddol arbennig.

  10. Allwch chi ddewis un artist neu unigolyn creadigol yng Nghaerdydd y dylem ni fynd i gael mwy o wybodaeth amdano?
    Mae bron yn amhosibl dewis un artist o blith pob un arall, ond byddem bob amser yn bachu ar y cyfle i atgoffa pobl am gyfraniad eithriadol Tamara Krikorian at y sîn gelfyddydol yng Nghymru. Roedd hi’n artist fideos arloesol adnabyddus a lywiodd y gwaith o gomisiynu celf gyhoeddus yng Nghymru – hi sydd yn y bôn yn gyfrifol am lawer o elfennau gwych ein tirwedd adeiledig heddiw. Roedd hi’n unigolyn ysbrydoledig ac yn ffrind gwych i g39.

  11. Pa arddangosfa amlwg y byddwch chi'n ei chofio am byth?
    Yn 2005, gwnaethom gyflwyno’r arddangosfa 'On Leaving and Arriving' i ddathlu canmlwyddiant Caerdydd. Defnyddion ni gynwysyddion llongau mewn mannau siopa a sifil allweddol ledled canol y ddinas i arddangos gwaith artistiaid rhyngwladol ac artistiaid o Gymru. Dyma un o’r troeon cyntaf roeddem yn gallu denu artistiaid enwog iawn o dramor i weithio gyda ni, a gwnaethom hefyd gael cymorth ac ymrwymiad ardderchog gan Gyngor Caerdydd i’n helpu ni i wireddu un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol hyd yma.

  12. Beth yw eich cynlluniau ar gyfer eich 21ain blwyddyn?
    Mae gennym dymhorau arddangos gwych yn yr arfaeth – mae ‘Sprung Spring’ ar y gweill a fydd yn edrych ar gomedi a phathos mewn celf; ar ôl hynny bydd ein hysgol gelf annibynnol, sef UNITe yn nhymor yr hydref, a fydd yn dechrau gydag agoriad Made in Roath ganol mis Hydref. Ddechrau’r flwyddyn newydd byddwn yn trosglwyddo’r awenau i’r gydweithfa o gerddoriaeth a chelf, Rat Trap, a fydd yn dyfeisio, yn curadu ac yn cyflwyno tymor cyfan gyda’n cymorth ni; a byddwn hefyd yn recriwtio’r ail garfan ar gyfer Cymrodoriaeth g39. Cyffrous!

  13. Bydd sydd ar y gorwel i g39?
    Daethom yn elusen ym mis Ionawr eleni (hwre hwre!) felly rydym yn ystyried beth yw ystyr hynny i ni yn yr hirdymor ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn ymweld â nifer o safleoedd cyffrous iawn i gynllunio ar gyfer ail-leoli mewn ychydig o flynyddoedd – cadwch lygad...

  14. Yn eich barn chi, pa effaith y mae g39 wedi’i chael ar y gymuned greadigol?
    Rydym wedi cefnogi cynifer o bobl yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd artistig, naill ai fel artistiaid neu weithwyr – os edrychwch ar ecoleg sîn gelfyddydol, rydym yn cyflawni rôl hanfodol wrth ddarparu llif cyson i'r genhedlaeth nesaf o unigolion creadigol. Rhan o hyn yn syml yw bod yno fel lleoliad cefnogol y mae modd i bobl ddibynnu arno – boed hynny’n gymorth strwythuredig, neu ddod ag artistiaid a chynulleidfaoedd ynghyd mewn amgylchedd anstrwythurol megis clwb brecwast.

  15. Sawl artist rydych chi wedi cydweithio ag ef?
    Mae’n agosáu at oddeutu 800 o artistiaid pan wnaethom gyfrif ddiwethaf...

  16. Allwch chi ddangos llun i ni o g39 ar waith?

  17. Ble hoffech fod mewn 21 mlynedd arall?
    ‘Bach’ ac ‘annibynnol’ yw’r geiriau allweddol wrth gynllunio ein busnes ar hyn o bryd... Rwy'n credu y byddwn yn manteisio mwy ar fentrau cymunedol yn y dyfodol, a hoffwn weld y diwylliant yn cael ei hyrwyddo mewn ffyrdd tebyg i sut rydym yn meddwl am iechyd a ffitrwydd nawr er mwyn i bobl ei ddefnyddio ac ennyn diddordeb ynddo.

  18. Gyda phwy fyddech chi'n hoffi gweithio gyda nhw nad ydych chi wedi eto?
    Rydym bob amser wedi cynnal sgyrsiau da gyda’r Ysgol Pensaernïaeth, ac rwy’n credu bod llawer o botensial i wneud gwaith diddorol a chyffrous ar y cyd lle mae’r arferion celf a phensaernïaeth yn torri ar draws ei gilydd. A hoffem ddod â Manifesta i Dde Cymru!

  19. Pa mor bell mae g39 yn cyrraedd, y tu hwnt i Gaerdydd a Chymru?
    Pan fyddwn yn siarad ag artistiaid a churaduriaid o bedwar ban byd mewn digwyddiadau rhyngwladol megis Arddangosfa Eilflwydd Fenis, mae’n galonogol clywed eu bod yn aml yn ymwybodol o g39. Nid ydym yn aml yn cael y cyfle i allforio, ond pan fyddwn, rydym yn meithrin perthnasoedd parhaol a chryf – mae'r cyfnod preswylio i artistiaid rhyngwladol yn URRA yn Buenos Aires yn enghraifft dda o hyn. 

  20. Pa brosiectau ydych chi’n gweithio arnynt ar hyn o bryd?
    Rydym ar fin lansio’r tymor ‘Sprung Spring' ar 9 Awst gyda Tim Bromage, Philippa Brown, Rebecca Gould, George Manson, Nightshift International a Marcos Chaves – felly cadwch lygad amdano. Rydym hefyd yn bwriadu gwella ein cynnig datblygiad proffesiynol i artistiaid drwy gyflwyno aelodaeth Warp gyda llawer o fanteision i aelodau.

  21. Sut gall pobl gymryd rhan?
    Mewn sawl ffordd! Pan fydd arddangosfa, gall pobl ddod i’n clybiau brecwast rheolaidd ar fore dydd Sadwrn am de, coffi a sgwrs; rydym yn cynnal cyfleoedd datblygiad proffesiynol cyson i artistiaid megis rhaglen UNITe a Chymrodoriaeth g39; mae hefyd gennym raglen wych i wirfoddoli (mae gwirfoddoli’n ffordd effeithiol iawn i fynd i mewn i’r sîn gelfyddydol – gallaf warantu hynny); ac mae gennym interniaeth dreigl a chyfleoedd eraill am waith o bryd i’w gilydd – cadwch lygad am y rhain ar Gaerdydd Creadigol!

    PEN-BLWYDD HAPUS G39!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event