Dangos a Dweud Llenyddiaeth yn yr Eisteddfod

04/08/2018 - 17:30
Cymdeithasau 2, Senedd
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Bydd Caerdydd Creadigol yn dod â’i fformat Dangos a Dweud i’r Eisteddfod. Bydd yn croesawu siaradwyr o bob rhan o ddiwydiannau creadigol Caerdydd i rannu eu prosiectau cyfredol a’u dyheadau.  

Bydd Dr Llion Pryderi Roberts, o Ysgol y Gymraeg, yn croesawu’r beirdd Osian Rhys Jones a Gruffudd Owena’r awdur Eluned Gramich (ddydd Sadwrn, 4 Awst, Cymdeithasau 2, 16:30). 

Dr Llion Pryderi Roberts

Mae Dr Llion Pryderi Roberts yn ddarlithydd yn y Gymraeg ac yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n darlithio ym meysydd barddoniaeth gyfoes, ysgrifennu cofiannol a llenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ef sy’n cydlynu modiwlau ysgrifennu creadigol yr Ysgol.

Mae Llion yn aelod o dîm Talwrn y Beirdd Aberhafren ac ef oedd bardd preswyl Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017 a Bardd y Mis, Radio Cymru (Ionawr 2018). Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Tipiadau (Cyhoeddiadau Barddas) yng Ngorffennaf 2018.

Osian Rhys Jones

Mae Osian Rhys Jones yn fardd ac yn gynhyrchydd cynnwys digidol sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae wedi ennill sawl gwobr am ei farddoniaeth gan gynnwys Cadair Eisteddfod Genedlaethol Môn yn 2017. Mae’n perfformio ei waith mewn amryw o ddigwyddiadau barddol led-led Cymru.

Yn 2011 sefydlodd nosweithiau barddol Bragdy’r Beirdd ar y cyd â Rhys Iorwerth a Catrin Dafydd. Mae’r digwyddiadau poblogaidd hyn yn dal i gael eu cynnal yng Nghaerdydd. Ar 6 Awst eleni bydd y tîm y tu ôl i Bragdy’r Beirdd yn cynnal ‘Y Siwperstomp’ - digwyddiad barddol aml-gyfrwng ar lwyfan Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru. Ym mis Gorffennaf eleni cyhoeddodd Bragdy’r Beirdd gyfrol o’r cerddi gorau a mwyaf poblogaidd a berfformiwyd yno dros y blynyddoedd. Bu’n gweithio i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn dod yn rhan o Dîm Cyfathrebu Digidol Prifysgol Caerdydd.

Gruffudd Owen

Daw Gruffudd Owen o Bwllheli ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers bron i ddeng mlynedd bellach. Mae’n ennill ei fara menyn gyda’r BBC fel golygydd stori i Pobol y Cwm. Mae’n aelod o griw sy’n trefnu nosweithiau barddol Bragdy’r Beirdd yn y brif-ddinas. Mae’n aelod o dîm Talwrn ‘Y Ffoaduriaid’ ac fo oedd enillydd stôl Stomp Fawr Caerdydd yn 2017 a stôl Stomp Fwy Caerdydd yn 2018. Cyrheuddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi ‘Hel llus yn y glaw’ restr fer gwobr llyfr y flwyddyn yn 2016.

Eluned Gramich

Cafodd Eluned Gramich ei geni yn Hwlffordd yn 1989. Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen ac Ysgrifennu Creadigol yn Brifysgol East Anglia. Ym 2015, enillodd hi Wobr New Welsh Writing gyda’i llyfr Woman Who Brings the Rain (New Welsh Rarebyte, 2015): hunangofiant sydd yn seiliedig ar ei phrofiadau yn byw yn Hokkaido, Japan. Wedi ei magu’n ddwyieithog, mae ganddi diddordeb mawr mewn cyfieithu llenyddol. Cyfieithodd hi gasgliad o straeon byrion Almaeneg gan yr awdures arobryn, Monique Schwitter, dan y teitl Goldfish Memory (Parthian, 2015). Yn fwy diweddar, mae hi wedi cyhoeddi stori hir 'The Lion and the Star' mewn cyfres newydd o'r enw Hometown Tales (Orion Books, 2018). Mae Eluned yn wneud ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol yn Brifysgol Aberystwyth.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event