Dangos a Dweud

24/04/2017 - 19:00
Porter's Cardiff
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Dangos a Dweud Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy'n rhoi llwyfan i’r amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol yn y ddinas. Bydd 'Dangos a Dweud' yn dod â chymuned greadigol Caerdydd ynghyd, o dalent newydd i bobl brofiadol, i glywed am eu prosiectau cyfredol a'u dyheadau.

Bydd ein tri siaradwr yn rhoi sgwrs gryno, pob un yn 10 munud o hyd. Ac fe fyddent yn dod â rhywbeth i'w ddangos. Gallai'r gwrthrych fod yr hyn sydd wedi'u hysbrydoli, yn declyn maent yn ei ddefnyddio yn eu gwaith, neu'n rhywbeth sy'n rhoi cysur iddynt. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrychau. 

Siaradwyr...

Bizzy Day

Bizzy Day yw Cyfarwyddwr Gweithredol The Other Room, Theatr Dafarn Caerdydd. Cyn sefydlu'r theatr gyda Kate Wasserberg, sy’n Gyfarwyddwr Artistig, bu Bizzy yn gweithio ar ei liwt fel swyddog codi arian ac fel cynghorydd cynllunio busnes yn y celfyddydau. Cyn-actor yw Bizzy a dechreuodd ei gyrfa bresennol yn 2014 pan oedd yn cael ei hyfforddi i fod yn swyddog codi arian yn rhan o gynllun Interniaethau Creadigol Celfyddydau a Busnes Cymru. 

Bizzy sy'n gyfrifol am faterion ariannol, gweithredol a strategol The Other Room. Mae’n arwain gwaith ym meysydd cynaliadwyedd ac arweiniad entrepreneuraidd, yn ogystal â chynhyrchu dramâu’r theatr. Mae Buzzy bob amser yn meddwl yn strategol ac mae ar ei gorau pan mae o dan bwysau. Mae hefyd yn mwynhau’r her greadigol o gynnal y theatr.

Allie John 

Mae Alison John yn gynhyrchydd yn yello brick - asiantaeth greadigol sy’n creu profiadau trochi trwy lwyfannau digidol a digwyddiadau byw. Yn y gorffennol, mae yello brick wedi creu gêm antur epig ar strydoedd Caerdydd, ap sy’n adrodd straeon ar lwybrau seiclo penodol yng Nghymru, a digwyddiad rhyngweithiol ar-lein ar gyfer cynulleidfaoedd opera newydd. Mae’r cwmni wedi gweithio gyda chleientiaid fel Opera Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Comisiwn Dylunio Cymru, Sustrans,  Prifysgol Caerdydd, Comisiynydd y Gymraeg a Taikabox.

Yn fwyaf diweddar mae hi wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu BORDERGAME i Theatr Genedlaethol Cymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae uchafbwyntiau eraill ei gyrfa wedi cynnwys cynhyrchu REVERIE, ein gêm aml-lwyfan a gafodd ei chanmol gan Gemau BAFTA.

Mae Alison hefyd yn gyd-gynhyrchydd Gŵyl playARK. Digwyddiad blynyddol yng Nghaerdydd yw hwn sy’n archwilio straeon, gemau a phrofiadau chwareus mewn theori ac ymarfer. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr ARK LAB, cwmni sy’n creu prosiectau er lles cymdeithasol.  Cydnabyddir hi fel un o garfan o gynhyrchwyr digidol sy’n ymarfer yng Nghymru gan Watershed, Theatr Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Glyn Mottershead 

Mae Glyn yn gyn-ohebydd, awdur ysgrifau, is-olygydd a newyddiadurwr golygyddol papur newydd sydd wedi gweithio ar draws amrywiaeth o feysydd newyddion gan gynnwys tor-cyfraith, iechyd a llywodraeth leol.

Glyn yw un o gyd-awduron The 21st Century Journalism Handbook ac mae’r arbenigo mewn Newyddiaduraeth Ddigidol a Newyddiaduraeth Data yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.

Mae'n aelod o sefydliad Investigative Reporters and Editors a’r Online News Association. Glyn yw un o gyd-sylfaenwyr @HacksHackers de Cymru a de-orllewin Lloegr.

ARCHEBWCH NAWR

Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig ar gyfer mynediad i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges ebost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.