Dan y chwyddwydr: Zillah Bowes (Derbyniwr Ysgoloriaeth Art School Plus)

Cynhaliwyd cwrs hyfforddi Art School Plus 2023 ym mis Hydref, a buom mewn partneriaeth â nhw i greu dwy Ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol wedi’u hariannu’n llawn. Cafodd dau artist lleol ar ddechrau eu gyrfa gyfle i gymryd rhan yng nghwrs hyfforddi Art School Plus 2023 eleni am ddim, gan gynnwys costau teithio a llety.

Buom yn siarad ag un o’r artistiaid, Zillah Bowes, am ei phrofiad ar y cwrs:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 22 April 2024

Zillah Bowes headshot

Soniwch amdanoch eich hun a'ch gwaith

Rwy'n artist amlddisgyblaethol a gwneuthurwr ffilm yng Nghaerdydd sy'n ymarfer ar draws ffilmiau, ffotograffiaeth, barddoniaeth a gosodiadau ynghyd â phethau eraill. Mae fy ngwaith yn aml yn archwilio’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r amgylchedd naturiol ac mae ganddo ymholiad ysbrydol ynghylch newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae fy nghysylltiad â byd natur i'w weld yn llywio fy ymarfer ar draws yr holl gyfryngau gwahanol rwy'n eu defnyddio ond rwyf i hefyd yn gweithio'n agos gyda chymunedau o bobl. Yn y bôn, rwy'n meddwl bod gen i ddiddordeb mewn ail-fframio estheteg tirwedd - mae rhai o'm prosiectau diweddar yn defnyddio golau'r lleuad i archwilio bywyd planhigion a dynol mewn ardal ucheldirol ac edrych ar y cysylltiad rhwng planhigion a phobl.

Pam gyflwynoch chi gais am ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol?

Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf i wedi cael cyfleoedd newydd i greu celf yn yr amgylchfyd cyhoeddus ac wedi mwynhau'r her o gyflwyno fy ngwaith mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys mewnosodiad planhigyn byw o fy ngwaith fideo Allowed mewn ffenest siop yn y ddinas gyda tactileBOSCH a gwaith digidol comisiwn Gwawr / Dawn ar gyfer agoriad Senedd Cymru, a ddangoswyd ar-lein, ar sgriniau ac fel arddangosfa ffisegol.

Yn dilyn y profiadau hyn, cyflwynais gais am ysgoloriaeth Art School Plus Caerdydd Creadigol i ddatblygu fy ngwybodaeth am greu celf gyhoeddus, gan fod yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar arfer gorau a chomisiynu yn yr amgylchfyd cyhoeddus. Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn ymgeisio gan fod y rhaglen wythnos o hyd yn cynnig cyfle i ddysgu gan artistiaid, penseiri, arbenigwyr amgylcheddol, datblygwyr ac arweinwyr cyhoeddus o'r radd flaenaf.

Beth oedd rhan orau eich profiad ar Art School Plus?

Roedd yn arbennig o braf bod yn rhan o grŵp cynnes o gymheiriaid talentog ac ysbrydoledig yn ogystal â dysgu am amrywiaeth eang o bynciau. Bu gweithwyr proffesiynol profiadol yn cyflwyno ar ddylunio, pecynnu a chludo arddangosfa, ymgeisio am gomisiynau, ymgysylltu cymdeithasol, curadu cylchol, hygyrchedd, gweithio gyda chynghorau a datblygwyr, a mwy. Roedd y gofod ar gyfer trafod yn agored ac yn feithringar, a dysgais lawer drwy sylwadau a mewnwelediadau fy nghyd-artistiaid yn ogystal â’r siaradwyr.

Roedd ffocws estynedig yn ystod Art School Plus ar ddiffinio arweinyddiaeth, a oedd yn ysbrydoledig ac yn gymharol newydd i mi. Gydag Adele Patrick, Cyd-sylfaenydd a Chyd-gyfarwyddwr Llyfrgell Menywod Glasgow, buom yn edrych ar ein gwerthoedd craidd unigol ac fel grŵp ac ar enghreifftiau o arweinyddiaeth ar sail gwerthoedd. Roeddwn i'n mwynhau'r ymarferion cyfranogol yn y sesiynau, oedd hefyd yn cynnwys sgiliau cyfathrebu a thechnegau hyfforddi rhwng cymheiriaid.

Pa effaith fydd y profiad yn ei gael ar eich ymarfer?

Rhan allweddol o'r profiad oedd gallu myfyrio ar fy ymarfer fy hun a phwyso a mesur yr hyn sy'n bwysig i mi yn fy ngwaith a'r ffordd rwy'n gweithio. Cafwyd trafodaeth bwysig am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn artist yn yr amgylchfyd cyhoeddus a pha fath o gefnogaeth sydd ei angen ar artistiaid a’r sefydliadau sy'n cydweithio gyda nhw.

Mae'r trafodaethau hyn wedi fy helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth ddeall paramedrau creu celf gyhoeddus o ran fy ymarfer fy hun. Rwyf i wedi dysgu ffyrdd newydd o strwythuro fy agwedd at greu fy ngwaith a'r gynulleidfa sy'n ymgysylltu â'r gwaith. Efallai mai’r effaith fwyaf fydd gallu cyfathrebu’n fwy effeithiol gyda phartneriaid yn y dyfodol.

Soniwch am eich dyheadau yn y dyfodol ar gyfer creu gwaith yn yr amgylchfyd cyhoeddus

Mae Art School Plus wedi agor fy llygaid i'r cyfleoedd sydd ar gael mewn gwaith yn yr amgylchfyd cyhoeddus ac mae fy nychymyg yn dal i weithio ar bosibiliadau ar gyfer y dyfodol. Mae'r syniad o weithio'n gynaliadwy, gweithio gyda gofod cyhoeddus gwag a gweithio ar raddfa fawr yn yr awyr agored yn fy nghyffroi.

Rwy'n meddwl yn arbennig sut i ddefnyddio ffilm, yn ogystal â ffotograffiaeth, mewn ffordd integredig sydd wedi'i gwreiddio mewn lle, yn hytrach nag ar sgriniau dros dro neu sgriniau a rennir. Mae hyn yn rhywbeth y dechreuon ni ei drafod fel grŵp ar Art School Plus a chytunwyd ei fod yn waith ar y gweill!

Diolch o galon i Gyfarwyddwr Art School Plus Ella Snell a phawb yn Art School Plus a Chaerdydd Creadigol am y cyfle amhrisiadwy hwn.

insta @zillahbowes 

linktr.ee/zillahbowes

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event