Dan y chwyddwydr: Y Gerddorfa Amgen

Rydym wrth ein bodd yn dathlu ac arddangos y bobl greadigol wych sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach. 

Ar gyfer y cyfweliad 'Dan y chwyddwydr...' hwn, buom yn siarad â Nathan Jones, Cyfarwyddwr Creadigol The Alternative Orchestra.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 2 October 2024

An image of the alternative orchestra

Beth yw'r Gerddorfa Amgen?

Mae'r Gerddorfa Amgen yn gwmni ymbarél ar gyfer nifer o ensembles a gweithgareddau cerddorol gwahanol. Y gerddorfa yw'r prif weithgaredd, yr endid mawr. Felly gallem gynnwys unrhyw beth o 8 -15 offeryn hyd at 50 - 70 o offerynnau a chôr. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi bod yn gweithio fel Y Cabaret Amgen ac yn cynnal digwyddiadau llai gyda 2-8 o bobl yn yr ensemble yn perfformio cerddoriaeth wedi'i hysbrydoli gan gerddorfa, felly pethau fel soddgrwth a sacsoffon a chlarinét ochr yn ochr ag offerynnau sy’n perthyn i arddull pop fel gitarau, allweddellau, drymiau a chantorion. Ein tagline yw 'Caneuon cyfarwydd, steil anghyfarwydd'. Mae'n golygu dewis caneuon poblogaidd y mae pobl eisoes yn gyfarwydd â nhw a’u trawsnewid mewn ffordd sydd wedi'i hysbrydoli gan gerddorfa.

Beth all pobl ei ddisgwyl o un o'ch perfformiadau?

Hwyliog iawn, hamddenol iawn. Caneuon cyfarwydd, ond mewn arddull difyr newydd sy'n gwneud iddyn nhw feddwl mewn ffordd wahanol am y gân. Rydyn ni wedi gwneud fersiynau baled araf o ganeuon dawns a disgo; fe wnaethon ni 'Dance with Somebody' gan Whitney Houston, sydd mewn gwirionedd yn gân eithaf meddylgar os ydych chi'n gwrando ar y geiriau. Mae'n gwneud i chi weld y gân o ongl wahanol, ac yn lle dim ond meddwl 'dyma gân ddawns anhygoel', rydych chi'n ei gweld o safbwynt gwahanol.

Beth ysbrydolodd chi i ddechrau'r holl beth?

Dwi'n meddwl bod cantorion, ac yn aml mae hynny'n ddigon teg, bob amser yn cael y sylw i gyd yn y mathau hyn o gigs, gyda’r gerddorfa neu'r ensemble yn cyfeilio a rhywsut yn eilradd. Mae llawer o'r stwff cerddorfaol yng Nghaerdydd yn eithaf tebyg, mae llawer o gerddorfeydd yn gwneud stwff clasurol a rhywfaint o crossover, ond dwi'n meddwl bod hwn dipyn yn fwy unigryw. Roeddwn i wir eisiau tynnu sylw at yr offerynwyr anhygoel sydd yma yng Nghymru.

An image of Nathan
Cyfarwyddwr Creadigol, Nathan Jones

Oes yna brosiect rydych chi'n teimlo'n fwyaf balch o fod yn rhan ohono?

Oes, ein rhestr chwarae Pride mae'n debyg, fe wnaethon ni restr chwarae Y Gerddorfa Amgen yn Cyflwyno Pride ddwywaith y llynedd. Roedd yn cynnwys yr holl artistiaid pride anhygoel, fel Years & Years, Elton John, KD Lang ac yna hefyd artistiaid sy'n gefnogwyr fel Lady Gaga a Kylie Minogue. Rhoddon ni bwyslais gwahanol ar rywfaint o'r gerddoriaeth gan edrych yn ddyfnach ar y geiriau a'r caneuon a dod o hyd i'r hyn maen nhw'n son amdano mewn gwirionedd yn hytrach na dim ond rhoi cyfle i ddawnsio. Ochr yn ochr â’r perfformwyr rheolaidd gwych roedd gennym ni frenhines drag o Gaerdydd fel gwestai arbennig oherwydd ei thalent gudd hi yw ei bod yn bianydd clasurol, felly roedd hynny'n cyd-fynd yn wych gydag arddangos offerynwyr yn ogystal â chantorion.

Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'r gwaith rydych chi'n ei wneud?

Rydyn am gyflwyno cerddoriaeth gerddorfaol i gynulleidfa ehangach a'i gwneud yn fwy hygyrch ac yn llai brawychus i bobl. Chi'n gwybod, caiff llinynnau a phres yn arbennig eu defnyddio ar draciau pop, ond dyw pobl ddim wedyn yn cysylltu hynny â cherddorfa fwy. Mae sefydliadau fel y Gerddorfa Dreftadaeth a rhai o Gerddorfeydd y BBC yn gwneud llawer i wella delwedd 'hen ffasiwn' cerddorfeydd, felly dwi'n meddwl yr hoffen ni fel cerddorfa arwain y newid hwnnw yng Nghymru.

Ein bwriad yw gwaredu'r ffiniau rhwng y byd pop a'r byd clasurol a'u cael nhw i uno â'i gilydd fel nad yw pobl mor benodol am genre wrth feddwl am offerynnau cerddorfaol.

Beth ydych chi'n ei hoffi am wneud y gwaith hwn yng Nghymru neu yng Nghaerdydd? 

Mae’r gynulleidfa gerddorol yng Nghaerdydd yn agored iawn i syniadau newydd ac wir yn cefnogi pobl sy'n rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae'r dilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol a'r sylwadau a gawn yn ystod ac ar ôl perfformio'n gefnogol iawn. A dwi'n meddwl mai dyma yw diwylliant cerddoriaeth Cymru a Chaerdydd, mae'n bositif iawn a dwi'n meddwl ei fod yn lle da i arbrofi gyda syniadau newydd.

Allwch chi ddweud unrhyw beth arall am eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rydyn ni wedi gwneud 00's Pop Queens a Pride,  ac yn cynllunio 'One Hit Wonders', 'Guilty Pleasures' a 'Boy Bands vs. Girl Bands', i enwi rhai yn unig. Efallai y gwnawn ni un ar Chwedlau Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.

Yna ar raddfa fwy, rydyn ni'n gwneud ffilm yn fyw gyda'r gerddorfa, lle mae'r gerddorfa'n chwarae sgôr y ffilm yn fyw a’r ffilm yn cael ei thaflunio ar y sgrin fawr. Rydyn ni wedi sicrhau'r hawliau i wneud y ffilm o 2014 Pride, fydd yn cynnwys corau lleol a Band Pres Tredegar ynghyd â'r Gerddorfa Amgen. Dwi wedi bod yn paratoi'r gerddoriaeth drwy'r haf ac yn llawn cyffro wrth feddwl am ddechrau'r ymarferion! Mae'n berfformiad arbennig un noson i ddathlu'r dengmlwyddiant yn Arena Abertawe ddydd Gwener 25 Hydref, ac mae tocynnau ar gael nawr.

Alternative Orchestra poster

Sut gall pobl glywed mwy a chael y wybodaeth ddiweddaraf gennych chi?

Mae ffurflen gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr ar ein gwefan ac mae ein digwyddiadau cymdeithasol i gyd yn @TheAltOrch. Hefyd, os ydych chi'n dod i gig, dewch i gael sgwrs! Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed sut y daeth pobl i wybod amdanom ni a'u barn am y gig.

An image of an orchestra member

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event