Dan y chwyddwydr: Lleoedd Creu yn Llyfrgelloedd Bro Morgannwg

Rydyn ni’n hoff iawn o ddathlu ac arddangos y bobl a’r lleoedd creadigol gwych yng Nghaerdydd a'r rhanbarth ehangach.

Ar gyfer yr erthygl ‘Dan y chwyddwydr’ hon, fe aethon ni i ymweld â’r lle creu yn Llyfrgell y Barri. Dysgwch ragor am y lle hwn a sut i'w ddefnyddio:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 30 April 2024

Image from Makerspace in Barry

Lansiodd Bro Morgannwg brosiect Lleoedd Creu mewn Llyfrgelloedd yn 2022 mewn lle a adnewyddwyd yn Llyfrgell Penarth. Yn 2023, agorwyd ail le yn Llyfrgell y Barri, a hynny yn y man a adnewyddwyd ar gyfer plant yn eu harddegau gynt.

Beth yw lle creu?

Lleoedd sy'n eich galluogi i ddefnyddio offer dylunio a chreu yw lleoedd creu. Maen nhw’n galluogi cymunedau i ddod ynghyd i gyd-greu, rhannu adnoddau a gwybodaeth, gweithio ar brosiectau, rhwydweithio ac adeiladu. Mae lleoedd creu’n helpu pawb, boed yn ddechreuwyr neu’n ddefnyddwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau a'u creadigrwydd. Maen nhw’n hyrwyddo datblygu sgiliau technoleg uwch sydd eu hangen ar gyfer ffyniant a symudedd cymdeithasol.

An image of inside the space in Barry

Beth sydd ar gael yn y lleoedd hyn?

Mae'r ddau le creu’n gartref i amrywiaeth o offer creu a dylunio digidol sy'n rhoi llawer o gyfleoedd i oedolion a phlant ddysgu sgiliau a datblygu eu syniadau creadigol:

  • Argraffyddion 3D
  • Torwyr laser
  • Peiriannau Cricut
  • Offer dylunio digidol

Y gobaith yw tanio’r dychymyg a gosod pobl ar lwybr creadigol o ddysgu personol a mwynhad. Efallai y bydd hefyd yn gam cyntaf i ddechrau busnes.

A poster about what you'll find in the Makerspace

Cael rhagor o wybodaeth ac ymweld â'r lleoedd

Os hoffech chi fynd ar daith o amgylch y naill le neu'r llall, mae sesiynau Cwrdd â’ch Lle Creu’n cael eu cynnal drwy gydol mis Mai/Mehefin. Sesiynau rhad ac am ddim sy’n para awr yw’r rhain.

 

Ewch ati i ddilyn y Lleoedd Creu ar y cyfryngau cymdeithasol a gweld pa ddigwyddiadau sydd i ddod.

E-bost: makerspace@valeofglamorgan.gov.uk

 

3D printed materials

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event