Dan y chwyddwydr: Celyn of Gwent

Mae Caerdydd yn llawn cerddoriaeth ym mis Hydref. O Ŵyl Gerddoriaeth Dinas Caerdydd i Llais, Sŵn, a Gwobr Cerddoriaeth Cymru, mae’r ddinas yn llawn bwrlwm creadigol. Ac ymhlith yr artistiaid sy’n ein swyno gyda’u synau yw Celyn of Gwent: cerddor, artist a pherfformiwr drag. Mae’r gerddoriaeth yn cyfuno pop arbrofol, perfformiad a chelf weledol i ystyried hunaniaeth, bod yn gwiar a’r byd o’n hamgylch ni.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 October 2025

Mae ei record sengl ddiweddaraf, Agony and Rapture, yn cyfleu’r cyfuniad o deimladau a’r ymgyrchu sydd gymaint rhan o waith Celyn. “Ro’n i eisiau dangos fy mod i wedi fy llethu â chyflwr y byd drwy ddefnyddio cerddoriaeth a geiriau. “Yn anffodus, mae’r gân yn teimlo hyd yn oed yn fwy perthnasol ar hyn o bryd.” Ynghlwm wrth y trac, sy’n rhan o waith ar y cyd â’r cynhyrchydd J.Aria a chymorth gan Help Musicians, mae darn ar ffurf gweledol trawiadol gan bartner Celyn, Kostas. “Roedden ni eisiau rhoi cynnig ar iaith weledol sy'n cyfleu endidau creu a dinistrio yn ogystal â'r elfen ddynol sydd rhwng y ddau hyn."

celyn of gwent portrait
Llun gan Konstantine Vale

Y tu hwnt i’r gerddoriaeth ei hun, mae Celyn yn gobeithio y bydd eu celf yn annog pobl i ymwneud â’r byd go iawn. “Rwy’n gobeithio y bydd fy ngherddoriaeth yn ysgogi newid gwleidyddol yn ymarferol,” meddan nhw. “Yr elfen fwyaf gwerthfawr am artistiaid yw eu bod yn mynd ati i amlygu pethau yn y gymdeithas a pheri bod newid go iawn yn digwydd – sef peidio â chilio i fyd syniadau haniaethol. Felly cofiwch wrando ar y gân, mae hi’n wych! Ac yna ewch i wrthdystiad dros Balestina, dros hawliau traws, yn erbyn ffasgaeth a hiliaeth. Gwnewch y cysylltiad rhwng y pethau hyn â chymerwch ran.”

Ar ôl treulio amser yn Llundain a Glasgow, mae Celyn wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar – rhywbeth sydd wedi sbarduno ffyrdd newydd o feddwl ac egni creadigol. “Mae dychwelyd yn golygu ailddarganfod Cymru yn oedolyn,” meddan nhw. “Rwy wedi bod yn lwcus i gael fy nghroesawu’n gynnes, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y prosiectau ar y cyd y bydda i’n eu datblygu yn 2026.” Mae thema’r wythnos hon, Caerdydd Creadigol Meithrin eich rhwydwaith, yn berthnasol iawn i ffordd Celyn o gysylltu o’r newydd â’r sefyllfa greadigol yng Nghymru. “Y peth mwyaf defnyddiol oedd cysylltu â phobl eraill, peidio â bod ofn gofyn cwestiynau a dechrau’r sgyrsiau hynny.”

celyn of gwent performance portrait
Llun gan Matteo Favero, Yn Fyw yn IKLECTIK

Maen nhw’n tynnu sylw at sefydliadau allweddol, er enghraifft SHIFT a Tŷ Cerdd a grwpiau gan gynnwys Cwm Rag, sy’n lleoedd cymunedol i grwpiau o bobl greadigol sy’n gwiar. “Pleser bob amser yw dod at ein gilydd am noson o anhrefn cwiar a dod â’r gymuned ynghyd i fwynhau sioe a chael dawnsio!”

Mae cyngor Celyn yn syml i bobl arall sydd eisiau cryfhau eu rhwydweithiau creadigol: “Peidiwch â bod ofn estyn allan at bobl. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o ddod o hyd i bobl sy’n gwneud pethau diddorol yn eich ardal chi – ond does dim byd sy’n curo mynd i rywle go iawn yn fyw. Ewch â ffrind os bydd hynny’n helpu, ond mae hefyd yn werth bod yn anghyfforddus â mynd i ddigwyddiadau ar eich pen eich hunan.”

celyn of gwent portrait
Llun gan Konstantine Vale

Mae eu halbwm diweddaraf Dying & Rising yn cael ei ryddhau y gaeaf hwn, ac mae eu hanes yn ein hatgoffa o sut mae ailgysylltu, gweithio ar y cyd, a bod yn bresennol (wyneb yn wyneb go iawn neu gydsefyll) yn gallu dylanwadu ar gerddoriaeth a’r diwylliant sy’n rhan ohoni.

Gweler mwy o'u gwaith yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.