Mae'r bobl sydd wrth wraidd prosiect treftadaeth gymunedol drawsnewidiol wedi cael eu dathlu gan gyfres o weithiau celf newydd.
Mae'r arddangosfa, a ddatblygodd Caerdydd Creadigol a Phrosiect Treftadaeth Caerau a Threlái (CAER), yn adrodd hanes rhaglen o fentrau cymunedol a fu’n cael eu rhedeg dros gyfnod o ddegawd. Cafodd y mentrau hyn eu rhedeg mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion, artistiaid lleol a phobl greadigol, trigolion a phartneriaid treftadaeth.
Mae’n cael ei arddangos yng Nghanolfan Treftadaeth Gymunedol Bryngaer Gudd, a agorodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ym mis Medi. Mae'r gweithiau celf yn portreadu'r ffigurau allweddol sydd wedi chwarae rhan yn ystod degawd o lwyddiant y prosiect ar draws deg panel wedi’u haddurno.
Yn gynnar yn 2021, bu Treftadaeth CAER yn gweithio mewn partneriaeth â Chaerdydd Greadigol i gynyddu ymwybyddiaeth o'r prosiect ymhlith pobl greadigol ledled Caerdydd. Tyfodd y syniad ar gyfer yr arddangosfa o'r bartneriaeth hon.
Dywedodd Vicki Sutton, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol: "Mae'r arddangosfa celf yn benllanw 10 mis o gyd-gynhyrchu rhwng timau Treftadaeth CAER a Chaerdydd Greadigol i ddod â stori prosiect gwych CAER yn fyw mewn ffordd greadigol.
Mae adrodd hanes creadigrwydd Caerdydd yn greiddiol i waith Caerdydd Creadigol ac rwy'n teimlo mor falch y bydd pawb sy’n dod i’r ganolfan nawr ac yn y dyfodol yn gallu gweld y gwaith celf hwn sy'n cynrychioli rhai o'r bobl a'r angerdd sydd wrth wraidd y prosiect.
Mae’r gweithiau wedi'u dylunio gan yr artist lleol Nic Parsons, mae'r arddangosfa yn cynnwys darluniau gan aelodau o'r gymuned leol a phlant ysgol o Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys portreadau a frasluniodd Nic, Paul Kenneth Evans a Bill Taylor-Beales, a cherdd gan Sue Hamblen.
Dywedodd Nic, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau gydag ACE ac artist lleol arweiniol ar Dreftadaeth CAER: "Rydw i wedi gweithio ar brosiectau celf gydag ACE ers blynyddoedd ac wedi dechrau gweithio’n llawrydd gyda Treftadaeth CAER yn 2016. Dros y cyfnod hwnnw, rydw i wedi gweld y pethau anhygoel y maent wedi'u cyflawni drwy gydweithio â thrigolion lleol, gwirfoddolwyr ac ysgolion yng Nghaerau a Threlái.
Roedd yn bwysig iawn casglu rhai o'r llwyddiannau hyn yn y gwaith celf wrth aros yn driw i ethos cyd-gynhyrchu'r prosiect.
"Ac felly, roedd yn ymdrech gydweithredol o'r dechrau i'r diwedd gyda chyfraniadau gan lu o bobl greadigol, plant ysgol ac aelodau eraill o'r gymuned sydd wedi mynychu gweithdai darlunio yn y Dusty Forge."
Cafodd y trefniant, y cynllun a'r lliwio eu gwneud ar iPad Nicola cyn i gwmni printio argraffu roi’r gwaith celf ar bren i gyd-fynd ag esthetig y ganolfan a'r maes chwaraear thema treftadaeth gerllaw.
Yn ôl Dr David Wyatt, Cyd-gyfarwyddwr prosiect treftadaeth CAER a Darllenydd mewn Hanes Canoloesol Cynnar yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Caerdydd: "Ni fyddai Treftadaeth CAER yn bodoli heb waith caled, ymroddiad, angerdd a thalent yr holl bobl leol a gymerodd ran ac yn llythrennol mae miloedd o bobl - o bob oed - wedi cyfrannu dros y blynyddoedd! Mae cydnabod cyfraniadau rhai ohonynt mewn ffordd mor greadigol yn wych ac yn cyd-fynd gyda'n prosiect yn dda. Mae’r prosiect bob amser wedi defnyddio celf a’r dychymyg i archwilio'r gorffennol.
"Ac nid hynny’n unig, mae pobl leol wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau a thechnegau darlunio gan Nic a Paul, artistiaid ein prosiect ac mae eu gwaith yn rhan o'r darn terfynol hefyd. I mi, y math hwn o gyd-greu yw conglfaen Treftadaeth CAER. Alla i ddim meddwl am ffordd well o nodi ei degfed flwyddyn na gyda'r gweithiau celf gwych hyn."
Ymhlith y rhai sydd wedi’u portreadu mae Caroline Barr, cydweithredwr a chyfaill hirdymor Prosiect Treftadaeth CAER, a fu farw ym mis Mawrth 2021.
Ychwanegodd Dave Horton, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredu yng Nghaerau a Threlái: "Pan glywsom y newyddion hynod drist am Caroline yn gynharach eleni, fe ddywedon ni i gyd ein bod am gadw ei chof yn fyw fel ei bod hi'n aros yma gyda ni a’n bod ni’n gallu teimlo ei phresenoldeb am flynyddoedd i ddod.
"Roedd y prosiect hwn a'r cymunedau hyn mor bwysig i Caroline. Felly, mae ei gweld yn cael ei choffáu mewn ffordd mor brydferth fel rhan o'r gwaith celf hwn ac yng nghanol y cymunedau roedd mor bwysig iddi yn emosiynol iawn. Rwy'n gobeithio y bydd ei theulu, fel ni, ei ffrindiau, yn cael eu cysuro gan hyn."
Bydd yr arddangosfa yn cael ei ddadorchuddio am 11am ddydd Mercher 17 Tachwedd 2021.