- Gradd: £9.90 p/hr
- Adran: Rhaglen: Celfyddydau Gweledol
- Oriau: Oriau achlysurol, pan fydd yr arddangosfa ar agor yn unig
- Yn atebol i: Curadur
- Yn gyfrifol am: Dim cyfrifoldebau rheoli llinell
Diben y swydd:
Mae ein Cynorthwywyr Oriel yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau bod cynulleidfaoedd ein harddangosfeydd yn cael profiad cadarnhaol wrth ymweld â Chapter, a’r oriel yn benodol.
Prif rôl y Cynorthwywyr Oriel yw bod yn groesawgar i ymwelwyr ac annog trafodaeth fywiog a diddorol am yr arddangosfeydd, a rhannu gwybodaeth gyd-destunol, artistig, a hanesyddol am y gwaith celf sydd yno.
Mae Cynorthwywyr Oriel hefyd yn gyfrifol am ddiogelwch y cyhoedd pan fyddan nhw yn yr oriel, ac am warchod a chadw gwaith celf yn ddiogel ar y safle pan fyddan nhw yn ein meddiant. Fel rhan allweddol o’r tîm, mae gofyn i Gynorthwywyr Oriel gefnogi gwaith cyffredinol yr Adran Celfyddydau Gweledol pan fydd angen.
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 9yb, dydd Mawrth 29 Tachwedd