Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes

Cyflog
£24,500 y flwyddyn
Location
Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid.
Oriau
Fixed term
Closing date
02.06.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 16 May 2025

Mae S4C yn chwilio am Gynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes fydd yn cydweithio yn agos gyda'r Swyddogion Materion Busnes, y Swyddog Hawliau, tîm Rheoli Cynnwys ac Amserlennu er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys a ddarlledir wedi ei glirio'n gywir a bod cytundebau hawliau a chliriadau S4C yn cael eu gweinyddu'n gywir yn ogystal â helpu gyda gweinyddiaeth y tîm busnes.

Byddwch yn sicrhau bod yr holl wybodaeth (elfennau hawliau a busnes) am y rhaglenni ar gael i dimoedd ac adrannau eraill S4C drwy gyfathrebu cyffredinol effeithiol a thrwy ddefnyddio system gyfrifiadurol S4C (Cwmwl, system archif a BSM neu unrhyw olynydd).

Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan wrth gyd-weithio â'r timoedd mewnol a chwmnïau allanol.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a throsglwyddo gwybodaeth mewn ffordd ddeallusol a bwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £24,500 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: 15.5 mis

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 2 Mehefin 2025 trwy lenwi'r ffurflen gais yma.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.