Cynorthwyydd Cyhoeddi Digidol

Cyflog
£27,470 y flwyddyn
Location
Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid.
Oriau
Full time
Closing date
13.08.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 15 July 2025

Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys ar draws platfformau digidol yn ddyddiol gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl, yng Nghymru a thu hwnt. Mae presenoldeb S4C ar y llwyfannau yma yn rhan allweddol o drawsnewid digidol y darlledwr ac mae’n faes prysur, heriol a chyffrous.

Yn y rôl hon byddwch yn cynnig cymorth gweinyddol ac ymarferol i’r Tîm Digidol gan gefnogi strategaeth gyhoeddi aml-lwyfan S4C.

Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.

Y Cynorthwyydd Cyhoeddi Digidol fydd yn gyfrifol am gynorthwyo gyda'r tasgau dydd-i-ddydd sy'n gysylltiedig â rheoli cynnwys digidol S4C.

Byddwch yn cefnogi'r tîm digidol, yr adran Gyhoeddi a'r sector yn gyffredinol drwy ddarparu gweinyddiaeth platfform effeithiol. Byddwch yn gyfrifol am glirio cerddoriaeth a deunydd trydydd parti ac yn cydweithio gydag adrannau eraill o fewn S4C i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau a'r gofynion hawlfraint. Byddwch hefyd yn cefnogi'r tîm archif a chyfleu, a bod yn gyfrifol am dynnu lawr deunydd sydd heb hawliau neu sydd allan o gytundeb. Yn ogystal, byddwch yn chware rhan yn y broses cynllunio cynnwys ar draws gwahanol blatfformau digidol.

Manylion eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.  

Cyflog: £27,470 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.  

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mercher 13 Awst 2025 trwy lenwi’r ffurflen gais ar ein gwefan.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.