Contract: Parhaol, llawn amser (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis).
Oriau gwaith: 40 awr yr wythnos (TOIL) gan gynnwys egwyl cinio o awr â thâl. Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.
Cyflog: £23,005
Lleoliad: Byddwch wedi’ch lleoli yn Chapter, Caerdydd, ond rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd, lle bo’n bosib.
DIBEN Y SWYDD
Prif ddiben y swydd yw cefnogi’r Pennaeth Datblygu ym mhob agwedd ar waith codi arian strategol Chapter er mwyn cyflawni targedau incwm blynyddol ar gyfer y sefydliad.
Byddwch yn gweithio ar draws ymchwilio a rhagamcanu, trin, stiwardiaeth, datblygu cynigion, adrodd a rheoli data i gynhyrchu incwm ar draws ymddiriedolaethau a sefydliadau, ffynonellau statudol, unigolion a phartneriaethau busnes.
Byddwch yn rheoli ein cynlluniau aelodaeth gan sicrhau bod y perthnasau hynny’n cael eu meithrin i gynyddu buddsoddiad rhanddeiliaid yn y sefydliad, ein hethos cymunedol a’n huchelgais o ran y rhaglen.
Bydd gofyn i chi hefyd sefydlu systemau cywir i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cynnal, a bod yr holl waith yn cael ei fonitro a’i werthuso yn y ffordd fwyaf effeithlon, a chi fydd yn gyfrifol am baratoi adroddiadau ar gyfer dyfarniadau llwyddiannus yn unol ag amserlenni y cytunir arnynt.
EIN HYMGEISYDD DELFRYDOL
Bydd ein hymgeisydd delfrydol yn unigolyn meddylgar ac uchelgeisiol sy’n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes codi arian. Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl, a byddwch yn awyddus i gynyddu eich profiad yn y sector codi arian.
Byddwch yn chwilfrydig ac yn angerddol am y celfyddydau ac yn ymroddedig i gefnogi rhaglenni creadigol cydweithredol sy’n agored ac yn hygyrch i bawb.
Byddwch yn drefnus a bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, sylw craff at fanylion, a’r gallu i ymdrin yn ddoeth â sefyllfaoedd sensitif. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio’n unol ag amserlenni tynn, gan aros yn ddigynnwrf a chanolbwyntio dan bwysau. Byddwch yn ffynnu mewn tîm, ond bydd modd i chi hefyd weithio ar eich menter eich hunan pan fydd angen.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
MEYSYDD CYFRIFOLDEB A THASGAU ALLWEDDOL
• Cefnogi’r Pennaeth Datblygu i ymchwilio i gyfleoedd codi arian, gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau, nawdd corfforaethol a rhoddion unigol.
• Gweithio gyda phob tîm i baratoi ceisiadau drafft i ymddiriedolaethau a sefydliadau ar gyfer prosiectau a nodwyd, gan gynnwys cyfalaf.
• Paratoi adroddiadau drafft a monitro ar gyfer arianwyr prosiectau a refeniw o fewn terfynau amser.
• Darparu cymorth gweinyddol i’r cynllun aelodaeth, gan gadw golwg ar aelodau newydd ac sy’n gadael, a manteision aelodaeth. Sicrhau bod yr holl gyfathrebiadau gydag aelodau yn amserol ac yn gywir, ac yn adlewyrchu ethos a llais Chapter.
• Cefnogi’r Pennaeth Datblygu a thimau eraill i gynnal digwyddiadau rhanddeiliaid a chodi arian, derbyniadau, a gweithgareddau eraill a nodir.
• Gweithio gyda’r tîm marchnata a chyfathrebu i lunio deunyddiau cyfathrebu a hyrwyddo codi arian priodol.
• Drafftio adroddiadau gwerthuso sy’n briodol i unrhyw gyllid.
• Cynnal a datblygu cronfa ddata codi arian yn ôl yr angen.
AMRYWIOL
Ymgyfarwyddo a chydymffurfio â'r holl bolisïau, rheoliadau a gweithdrefnau ariannol, gweithredol, iechyd a diogelwch, staff, gofal cwsmeriaid, diogelu data, a chyfle cyfartal perthnasol, gan sicrhau yn benodol gydymffurfiaeth â'r holl rwymedigaethau statudol, yn enwedig o ran deddfau trwyddedu.
Unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chais rhesymol y Pennaeth Datblygu.
AMODAU ARBENNIG
Mae'n bosib y bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau, neu i ffwrdd o Chapter mewn digwyddiadau neu gyfarfodydd eraill.
Nid yw'r disgrifiad swydd yma’n gynhwysfawr. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod ag agwedd hyblyg tuag at eu dyletswyddau, gan ei bod yn bosib y bydd angen eu hamrywio (ar ôl trafod â deiliad y swydd) yn amodol ar anghenion y sefydliad, ac yn unol â phroffil cyffredinol y swydd.
MANYLEB YR UNIGOLYN
Fel Cynorthwyydd Datblygu, bydd angen i chi ddangos y cymwyseddau canlynol. Rydyn ni’n ymwybodol efallai na fydd gennych yr holl sgiliau a’r profiad dymunol, a byddwn ni’n darparu cymorth a hyfforddiant ar gyfer meysydd lle efallai y bydd angen i chi ddatblygu i mewn i’r swydd.
Hanfodol
• Profiad o godi arian a dealltwriaeth o arferion gorau codi arian.
• Sgiliau trefnu da a sylw craff i fanylion.
• Gallu gweithio i derfynau amser gan reoli sawl blaenoriaeth.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
• Cyfathrebwr sensitif a deinamig, gallu eirioli a dylanwadu.
• Trefnus gyda sylw uchel i fanylion.
• Llythrennog mewn TG gyda phrofiad o ddefnyddio Word, Excel a chronfeydd data.
• Sgiliau rhifedd da a dealltwriaeth o sut i gyflwyno cyllidebau’n glir.
Dymunol
- Gallu cyfathrebu yn Gymraeg
- Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth GDPR.
- Profiad o fonitro, gwerthuso ac ysgrifennu adroddiadau.