Cynorthwy-ydd Llogi Masnachol (Achlysurol)
Cefndir Gweithgarwch Masnachu Mentrau AOCC
Yn 2003 sefydlodd Amgueddfa Cymru is-gwmni masnachol o’r enw Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Cyf. Ar Fwrdd y cwmni hwn mae aelodau Cyngor yr Amgueddfa, rhai o gyfarwyddwyr Amgueddfa Cymru, a Chyfarwyddwyr Anweithredol sydd â phrofiad masnachol penodol.
Mae’r gwaith masnachol ar hyn o bryd yn cynnwys rheoli:
· Siopau Amgueddfa Cymru yn:
a. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
b. Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
c. Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
d. Amgueddfa Lechi Cymru
e. Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
f. Amgueddfa Wlân Cymru
g. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
· E-fasnach ac archebion post, wedi’u rheoli’n ganolog o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
· Meysydd parcio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
· Trwyddedu delweddau, wedi’i reoli’n ganolog o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
· Gwasanaeth llogi cyfleusterau preifat, yn bennaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
· Gwasanaeth arlwyo masnachfraint yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
· Rheoli safleoedd gwerthu gaiff eu rhoi ar rent i drydydd partïon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
· Projectau ffilmio masnachol ym mhob amgueddfa gan gynnwys y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol.
· Projectau cynhyrchu incwm newydd, gan gynnwys siopau dros-dro, cwrs rhaffau antur CoedLan, profiad realiti rhithwir a mwy.
· Gwasanaeth arlwyo mewnol yn Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
Eich gwaith…
· Helpu’r Tîm Llogi Masnachol i gynnig profiad o’r safon uchaf i gleientiaid
· Cynnig gwasanaeth llogi lleoliad ardderchog ar draws un ai Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
· Rhoi gofal cwsmer o’r safon uchaf i’n gwesteion, drwy roi gwybodaeth a’u cyfeirio o gwmpas y safle.
· Helpu gyda gosod a thynnu offer, megis gosod byrddau, addurno’r safle a symud dodrefn.
· Sicrhau iechyd a diogelwch ein hymwelwyr, staff a chontractwyr.
· Sicrhau diogelwch ein casgliadau drwy oruchwylio orielau ac adeiladau hanesyddol.
· Tywys trefnwyr cleientiaid, contractwyr a chysylltu â thimau arlwyo
· Helpu’r tîm i sicrhau bod y lleoliad yn cael ei gadw’n lân a diogel
· Helpu gyda llif ymwelwyr, gwesteion a chontractwyr.
· Casglu adborth gan ymwelwyr, ac annog rhoddion yn ôl cyfarwyddyd
Eich nod…
· Byddwch yn cyfrannu at gynnal digwyddiadau creadigol ac arloesol o’r safon uchaf, yn gyhoeddus a phreifat
· Helpu’r tîm i gynnal digwyddiadau sy’n creu incwm, er mwyn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru
· Helpu i gynnal digwyddiadau creadigol ac arloesol yn ein hamgueddfeydd.
· Sicrhau bod gwesteion, contractwyr a chyfranwyr yn mwynhau eu profiad.
· Croesawu, cynorthwyo a chefnogi ymwelwyr, contractwyr a chyfranwyr i sicrhau eu diogelwch a’u lles.
· Bydd eich presenoldeb yn diogelu ein hymwelwyr, casgliadau ac eiddo’r Amgueddfa.
Sut i gyrraedd y nod...
· Croesawu pob ymwelydd a bod yn barod i ateb eu cwestiynau.
· Bod yn ddigynnwrf, yn gwrtais ac yn broffesiynol - hyd yn oed mewn sefyllfaoedd anodd ac o dan bwysau.
· Dysgu a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth o’n casgliadau, a dod â nhw yn fyw er mwyn gwella profiad ymwelwyr yn ein digwyddiadau.
- Gweithio fel rhan o dîm i ddarparu presenoldeb diogelwch effeithiol.
· Sicrhau bod ymwelwyr, contractwyr a staff yn cadw at bolisïau iechyd a diogelwch
· Gweithio oriau hyblyg, gan gynnwys nosweithiau hwyr, penwythnosau a gwyliau banc.
· Cymryd rhan mewn hyfforddiant
· Trin pawb gydag urddas a pharch, waeth beth fo’u hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb, cenedl, oedran, gallu neu iaith.
Sut i gefnogi amcanion corfforaethol Amgueddfa Cymru...
1. Ymroi yn llawn i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal fel yr amlinellir ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y sefydliad a’u gweithredu.
2. Cefnogi gwaith yr adran o gydymffurfio â pholisïau Amgueddfa Cymru ar Gynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg.
3. Cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill y gallai eich gweithredoedd, neu eich diffyg gweithredu, effeithio arnynt, a chydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch fel sy’n briodol.
4. Yn rhan o delerau’ch cyflogaeth, mae’n bosibl y gofynnir i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill a/neu weithio oriau eraill fel sy’n rhesymol, yn unol â’ch gradd neu’ch lefel cyfrifoldeb cyffredinol o fewn y sefydliad.
Rydyn ni’n chwilio am berson…
· Sy’n frwdfrydig dros gynnal digwyddiadau llogi lleoliad er mwyn cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru.
· Sydd â sgiliau pobl gwych ac yn gallu ymddwyn yn broffesiynol, yn effeithiol ac yn hyderus gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
· Sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
· Sy’n gallu gweithio o’u pen a’u pastwn eu hunain.
· Sy’n drefnus, dibynadwy ac yn gallu cwblhau gwaith erbyn dyddiadau cau.
· Sy’n gallu gweithio oriau hyblyg, gan gynnwys ar benwythnosau, nosweithiau hwyr a gwyliau banc.
· Sydd â diddordeb yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru ac yn barod i ddysgu mwy amdanyn nhw.
Yr wybodaeth a’r cymwysterau angenrheidiol...
· Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl, e.e. gallu ateb cwestiynau ymwelwyr a rhoi gwybodaeth yn Gymraeg, yn ddymunol iawn.
· Mae gallu siarad ieithoedd cymunedol eraill hefyd yn ddymunol.
· Mae trwydded yrru lawn yn ddymunol.
· Gallu cyfrifiadurol, gan gynnwys defnyddio a dysgu defnyddio Windows, cronfeydd data a phlatfformau tocynnu.
Y profiad angenrheidiol...
· Profiad o weithio neu wirfoddoli gyda phobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau.
· Profiad mewn swydd sy’n delio â chwsmeriaid, gan gynnwys llogi lleoliad, digwyddiadau, blaen tŷ, lletygarwch ac ati.
· Mae profiad neu ddealltwriaeth o iechyd a diogelwch, e.e. Cymorth Cyntaf, Codi a Chario yn ddymunol.
· Byddai profiad blaenorol o weithio mewn amgueddfa neu amgylchedd tebyg o fantais, ond nid yw’n hanfodol.
Beth sy’n bwysig i ni...
Rydyn ni’n annog pob aelod o’n staff i arddel ein gwerthoedd sefydliadol yn ei waith o ddydd i ddydd. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos sut mae’n arddel y gwerthoedd hyn yn ei waith a’i fywyd ar hyn o bryd.
Creadigrwydd
Rydyn ni’n ysbrydoli creadigrwydd drwy ein hamgueddfeydd, ein casgliadau a sgiliau ein staff a’n gwirfoddolwyr.
Cyfrifoldeb
Rydyn ni’n gyfrifol am ein gilydd, ein hymwelwyr, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg, gan ofalu am les ein gilydd a’r casgliadau cenedlaethol.
Gonestrwydd
Rydyn ni’n gweithredu’n onest bob amser, gan gynnal safonau proffesiynol drwy fod yn ddidwyll ac yn ddibynadwy.
Tegwch
Mae ein hamgueddfeydd yn gynhwysol, ac rydyn ni’n parchu amrywiaeth ein staff a’n hymwelwyr.
Cydweithio
Rydyn ni’n cydweithio â’n gilydd, gyda chymunedau a phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Telerau ac Amodau...
Cyflog cychwynnol |
Gradd B Trefniant Gweithiwr Cronfa - £12.84 yr awr |
Hyd y contract
|
Contract achlysurol - dim oriau gwarantedig. |
Oriau’r contract
|
Contract dim oriau.
|
Cyfnod prawf |
Mae cyfnod prawf o 6 mis yn berthnasol i’r swydd hon.
|
Mae pob penodiad newydd yn dibynnu ar dderbyn geirda, adroddiad hawl i weithio yn y DU.
|
Sut i wneud cais:
Anfonwch lythyr yn mynegi diddordeb yn y rôl, gan nodi’r wybodaeth, sgiliau a phrofiad sydd gennych chi at y Tîm Adnoddau Dynol ar ad@amgueddfacymru.ac.uk
Mae croeso i chi gyflwyno’ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o’r gymdeithas.