Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid (Dwyieithog)

Cyflog
£19,261 (Yn seiliedig ar oriau llawn amser)
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
22.02.2023
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 9 February 2023

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl: Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid (Dwyieithog)

Ystod Cyflog: £19,261 (Yn seiliedig ar oriau llawn amser)

Dyddiad Cau: 22 Chwefror 2023

Noder na fydd ceisiadau trwy Indeed yn cael eu derbyn.

I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi

Amdanom ni/Ein Hadran:

Yr Adran Cysylltiadau Cwsmeriaid yw'r pwynt cyswllt cyntaf i bawb sy'n ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae ein hadran yn gyfrifol am ateb holl ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn, drwy e-bost neu gwe-sgwrs ac yn wyneb yn wyneb yn ein fan gwybodaeth sydd wedi'i leoli ym mlaen y tŷ. Rydym yn cynnig arweiniad i gwsmeriaid yn ddyddiol ar beth i'w wneud a'i weld yn y Ganolfan, yn ogystal â sut i ddefnyddio ein hoffer hunanwasanaeth ar ein gwefan. Yn ogystal rydym yn helpu'r rhai ag anghenion hygyrchedd ac yn codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o nodau ein helusen a’n gwaith cymunedol.

Mae arloesi yn bwysig i ni ac yn rhan fawr o'r gwaith a wnawn yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. O fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi lansio e-docynnau, gwasanaeth cyfnewid tocynnau ar-lein a gwe-sgwrs. Rydym hefyd wedi galluogi archebwyr Grŵp i olygu a thalu am eu harchebion ar-lein.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn parhau i fod yn arloesol wrth i ni weithio ar wella ein gwasanaethau Archebion Grwpiau trwy gyflwyno archebion ar-lein. Mewn cydweithrediad â'n timau Profiad Cwsmer a Bwyd a Diod, byddwn yn paratoi ar gyfer agor ein hardal flaen tŷ newydd a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gwych ar gyfer ein cwsmeriaid.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Mae hwn yn amser cyffrous i fod yn rhan o'r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Cyn agor ein hardal Blaen Tŷ newydd, rydym yn chwilio am gydweithwyr/ymgeiswyr arloesol sydd wedi’u grymuso i ddarparu adborth a syniadau newydd i wella ein gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid.Fel Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn atebol i'n Goruchwylydd Cysylltiadau Cwsmeriaid yn ein Canolfan Gyswllt gan helpu i redeg a chynnal ein gweithrediadau dyddiol ar y safle. Bydd eich swydd yn cynnwys:·Defnyddio ein system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (Tessitura), Gwasanaeth Gwe-Sgwrsio, system Ffôn ac E-bost i gyfathrebu a phrosesu gwybodaeth a gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid·Cefnogi'r tîm Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid gyda chynulleidfaoedd sioeau·Defnyddio eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i gynorthwyo ein cwsmeriaid drwy ein sianeli cyfathrebu amrywiol·Gweithio fel rhan o'r tîm gweithredol gyda'n timau Profiad Cwsmer a Bwyd a Diod·Gweithio ochr yn ochr ag adrannau eraill, gan gynnwys ein timau Marchnata a Digidol, Cymunedol, Dysgu Creadigol a Chyllid.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
  • 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.