Cynnig gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr i'r Tîm Cyfathrebu, a chyfrannu at y gwaith o gyfathrebu’n effeithiol â chefnogwyr ynghylch ymgyrchoedd a phopeth arall sy’n ymwneud â hwy. Cefnogi'r Rheolwr Cyfathrebu yn y gwaith o sicrhau bod y strategaeth gyfathrebu yn cael ei gwireddu. Bydd hyn yn cynnwys deunydd mewn print, cynnwys digidol a chyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu.
Creu cynnwys ysgrifenedig o ansawdd uchel sy'n afaelgar a manwl gywir yn rheolaidd, cefnogi prosiectau cyfathrebu a gwaith dylunio graffeg, a chyfrannu at gyflawni strategaeth cyfryngau cymdeithasol y tîm.
Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer tîm cyfathrebu'r adran ac ymgymryd â phob agwedd ar y gwaith o weinyddu cyfathrebu, gan gynnwys cynnal a diweddaru cronfeydd data prosiectau, cysylltu â chydweithwyr mewnol a darparwyr allanol, a helpu gyda sesiynau briffio dylunio a chynnwys.
Cefnogi dyheadau'r Brifysgol fel y'u nodir yn Y Ffordd Ymlaen, ac i gyflawni hyn oll gan gadw at genhadaeth a gwerthoedd yr adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.
Prif Ddyletswyddau
- Bydd deiliad y swydd yn cynhyrchu, a hynny’n rheolaidd, gynnwys ymgysylltu ysgrifenedig o ansawdd uchel i'w ddefnyddio ar draws platfformau print a digidol, e.e. yr e-gylchlythyr misol ar gyfer cynfyfyrwyr, cyfathrebu ynghylch stiwardiaeth cefnogwyr, gwefannau a chyfryngau cymdeithasol
- Adnabod straeon sy'n cael effaith a chynnal cyfweliadau â chyn-fyfyrwyr, cefnogwyr ac ymchwilwyr i ddatblygu cynnwys ymgysylltu ysgrifenedig a digidol
- Mae’n rhaid iddynt gefnogi’r datblygu parhaus sy’n digwydd i’r gwefannau Cynfyfyrwyr a Rhoi, gan weithio gyda'r Swyddog Cyfathrebu Digidol, a helpu gyda chasglu cynnwys a chyrchu lluniau.
- Cysylltu â chyflenwyr mewnol ac allanol megis dylunwyr ac argraffwyr i sicrhau bod y Brifysgol yn cael y gwerth a'r ansawdd gorau
- Pan fo angen, rhoi cymorth dylunio graffeg yn fewnol, creu prosiectau ar gyfer print ac ar-lein
- Gweithio gyda'r Tîm Cyfathrebu a'r adran ehangach i ysgrifennu ac adeiladu ystod o e-gyfathrebiadau ar gyfer cynfyfyrwyr, y rhai sy’n mynychu digwyddiadau, a chefnogwyr
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol er mwyn cefnogi'r tîm a'r adran
- Cyfrannu at strategaeth cyfryngau cymdeithasol y tîm drwy gefnogi'r Swyddog Cyfathrebu Digidol gyda gweithgarwch a gweinyddiaeth cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â nodi eitemau newyddion a chyfleoedd
- Cefnogi’r Swyddog Cyfathrebu Digidol gyda phrosiectau ffilmio a golygu fideo
- Cyfrannu at y nodau strategol sy'n sicrhau bod cynfyfyrwyr, pobl sy’n rhoddwyr i’r Brifysgol, darpar aelodau'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill, yn, gweld effaith a phwysigrwydd Prifysgol Caerdydd, teimlo bod y Brifysgol yn berthnasol i'w bywydau heddiw, a’u bod am gefnogi'r Brifysgol (cyllid, myfyrwyr presennol, enw da, cymuned)
- Casglu a dadansoddi data er mwyn, llywio penderfyniadau, nodi tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a llunio adroddiadau fel y bo’n briodol
- Cyfarwyddo ac arwain cyflogeion eraill ar draws y Brifysgol i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau brand, gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, arian yn ogystal â pholisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel y bo'n briodol
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau
- Cadw at bolisïau'r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r rôl
Manyleb Unigolyn
I ddechrau eich Datganiad Ategol, copïwch yr adran nesaf mewn dogfen ar wahân a’i gludo, gan ysgrifennu eich atebion a’r enghreifftiau sy’n cyfateb i bob pwynt. Cadwch y ddogfen gyda’r teitl EICH ENW – RHIF BR – TEITL Y SWYDD a’i rhoi ynghlwm â’ch cais ar y system recriwtio.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
1. NVQ 3/Lefel A neu gyfwerth
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Profiad o ddefnyddio systemau rheoli cynnwys (e.e. Wordpress, Squiz), systemau marchnata ebost (e.e. Campaign Monitor, Mailchimp) a meddalwedd creadigol ar gyfer dylunio graffeg a golygu fideo (e.e. Adobe creative suite – Indesign, Photoshop ayb).
3. Profiad ynghylch ysgrifennu creadigol ar gyfer print a digidol, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn cyd-destun proffesiynol.
4. Profiad helaeth o weithio mewn swydd weinyddol ym maes cyfathrebu. Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau safonol swyddfa a’u gwella fel y bo’n briodol.
Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm
5. Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda thystiolaeth o'r gallu i weithio i lefel uchel o gywirdeb a sylw i fanylion, gyda ffocws arbennig ar ysgrifennu golygyddol.
6. Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid sydd â lefelau amrywiol o ddealltwriaeth.
7. Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
8. Tystiolaeth o allu datrys problemau drwy ddefnyddio menter a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle mae ystod o opsiynau posibl ar gael.
9. Tystiolaeth o allu dadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau.
10. Tystiolaeth o allu gweithio heb oruchwyliaeth gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun.
Meini Prawf Dymunol
1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad gwaith cyfatebol
2. Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch
3. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Gwybodaeth Ychwanegol
Y patrwm gweithio ar gyfer y swydd hon yw Dydd Llun - Dydd Gwener. Mae pob un o'r tîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr yn gweithio patrwm hybrid sy'n cynnwys o leiaf un diwrnod yn y swyddfa (Tŷ McKenzie, Heol Casnewydd), ar ddydd Mercher; efallai y bydd angen i ddeiliad y swydd hwn hefyd dreulio amser ychwanegol yn y swyddfa i ddarparu cymorth wyneb yn wyneb ar adegau eraill.