Cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music 2022 yng Nghaerdydd

Bydd Caerdydd yn cynnal Gŵyl BBC Radio 6 Music eleni, a gynhelir rhwng dydd Gwener 1af a dydd Sul 3ydd Ebrill. Cyhoeddwyd y perfformwyr bore yma ar 6 Music gan Huw Stephens a Mary Anne Hobbs.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 February 2022

Bydd yr ŵyl yn cynnwys perfformiadau byw, setiau DJ, Sgyrsiau a mwy ar draws nifer o leoliadau ym mhrifddinas Cymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Y Neuadd Fawr ac Y Plas yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Tramshed.

Mae’r perfformwyr yn cynnwys Little Simz, Khruangbin, Father John Misty ac aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, IDLES, Bloc Party, Johnny Marr a’r gwesteion arbennig iawn Pixies. Yn ogystal ag, audiobooks, beabadoobee, Big Joanie, Carwyn Ellis & Rio 18, Cat Power, Curtis Harding, David Holmes, Deyah, Elkka, Emma-Jean Thackray, Ezra Collective, Georgia Ruth, Green Gartside, Gruff Rhys, Gwenno, H. Hawkline, Ibeyi, Ibibio Sound Machine, Lucy Dacus, Mykki Blanco, Obonjayar, Orlando Weeks, OVERMONO, Porij, Self Esteem, Sherelle, Sports Team, The Bug Club, The Mysterines, Wet Leg a bydd rhagor yn perfformio hefyd.

Dywed Huw Stephens: Mae’n newyddion gwych bod Gŵyl 6 Music yn dod i Gaerdydd. Rydyn ni wrth ein bodd â’n cerddoriaeth fyw yma; mae gigs a nosweithiau clybiau yn rhan enfawr o’r hyn sy’n gwneud Caerdydd yn arbennig, ac mae cerddoriaeth fyw yn llifo drwy ein gwaed. Rydyn ni hefyd wrth ein bodd gyda BBC Radio 6 Music ac mae cael yr ŵyl anhygoel hon yn digwydd yma ar yr adeg bwysig hon yn adferiad lleoliadau cerddoriaeth fyw yn gyffrous dros ben.

Bydd digwyddiadau yn ystod y dydd yn ogystal â gyda’r nos. Bydd digwyddiadau Dydd Gŵyl 6 Music yn cael eu cynnal yn Tramshed a bydd digwyddiadau’r Nos yn cael eu cynnal yn Neuadd Dewi Sant, y Neuadd Fawr ac Y Plas. Bydd Tramshed hefyd yn cynnal digwyddiadau Hwyr 6 Music, noson glwb a fydd yn cynnwys DJs 6 Music a gwesteion arbennig, a fydd yn dilyn gigs byw Nos 6 Music.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Gŵyl BBC 6 Music i Gaerdydd y gwanwyn yma. 6 Music yw’r orsaf gerddoriaeth amgen orau yn y byd. Mae’n hyrwyddo cerddoriaeth fyw, artistiaid newydd ac ysbryd amgen mewn cerddoriaeth boblogaidd, ysbryd ac egni sydd wedi gwneud cerddoriaeth Brydeinig yn enwog ym mhedwar ban byd. Yma yng Nghaerdydd, rydyn ni wir yn falch o’r sîn gerddoriaeth annibynnol mae’r ddinas yn ei chynnig a thrwy ein strategaeth Caerdydd Dinas Cerdd, mae gennym gynlluniau i dyfu ac i harneisio’r egni hwnnw.  Rydyn ni wedi gweithio gyda’r BBC i helpu i ddod â’r ŵyl i Gymru am y tro cyntaf, ac rydyn ni’n gwybod y bydd yn llwyfan ffantastig i ddangos yr hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Mae hwn yn gyfle gwych i’r ddinas ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ŵyl yn dechrau a chael gweld rhagor o bobl yn mynd allan i fwynhau cerddoriaeth fyw eto.

Bydd tocynnau ar gyfer pob digwyddiad y mae angen tocyn iddo ar gael o 10am ymlaen ddydd Iau 17eg Chwefror yn bbc.co.uk/6musicfestival.

Mae Gŵyl 6 Music yn rhan o BBC 100 – blwyddyn eithriadol o gynnwys, digwyddiadau a chynlluniau addysg uchelgeisiol i hysbysu, addysgu a diddanu’r genedl, gan nodi 100 mlynedd o’r BBC yn 2022.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event