Mae Opera Cenedlaethol Cymru’n falch o gael cymryd rhan mewn cynllun sy’n cefnogi pobl ifanc wrth ennill profiad gwerthfawr a diddorol mewn swydd â thâl am chwe mis o leiaf. Bydd ein lleoliad yn rhoi’r profiad sydd ei angen arnoch i gael eich troed wrth y drws yn eich gyrfa o ddewis.
Mae’r Cynllun Kickstart yn ceisio datblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwella’r cyfle i gael swydd hirdymor. Mae’r cynllun yn cynnig lleoliadau gwaith chwe mis, gan ddefnyddio cyllid grant i gefnogi rhai 16 i 24 oed sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith dros gyfnod hir.
I ymgeisio ar gyfer y rolau Kickstart hyn, rhaid i chi fod rhwng 16 - 24 oed, yn ddi-waith ac yn cael Credyd Cynhwysol. Sylwch fod yn rhaid i bob ymgeisydd gael ei gyfeirio gan eu hyfforddwr DWP cyn ymgeisio.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Cynllun Kickstart: https://jobhelp.campaign.gov.u...
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r cynllun Kickstart fel Cynorthwyydd Gweinyddol dan Hyfforddiant yn yr Adran Adnoddau Dynol
Beth yw rhinweddau’r swydd hon?
- Darparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol i’r Tîm Adnoddau Dynol.
- Cynnal ffolder recriwtio
- Cydnabod ceisiadau a dderbynnir.
- Rhoi Cymorth gweinyddol gyda threfniadau ar gyfer cyfweliadau.
- Rhoi cefnogaeth gyda gwiriadau cyn cyflogi e.e. geirdaon, gwiriadau hunaniaeth a DBS.
- Trosglwyddo ffeiliau papur i ffeiliau electronig
- Cynnal systemau ffeilio electronig ac eraill a ffeiliau personol.
- Gwaith trefnu a thacluso’r gyriant Adnoddau Dynol a rennir
Am beth ydym ni'n chwilio?
- Sgiliau TG da – Microsoft Office
- Sylw rhagorol i fanylion
- Y gallu i gynnal cyfrinachedd bob amser
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Rhywun sy’n dysgu’n gyflym ac yn deall prosesau busnes
- Profiad Blaenorol o Weinyddu
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac aer ei fenter ei hun
- Agwedd gadarnhaol
I wneud cais: