Ar 26 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig COVID-19.
Mae gweithwyr llawrydd yn chwarae rhan bwysig yn economi greadigol Cymru - rydym ni'n cyfrifo bod 40,000 o weithwyr llawrydd yn niwydiannau creadigol Cymru. Sut mae Covid-19 wedi effeit‹hio arnyn nhw ac i ba raddau fydd y cynllun hwn yn lliniaru'r effaith?
Cynhaliodd Caerdydd Creadigol, mewn cydweithrediad ag Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd, arolwg ar-lein o 237 o weithwyr llawrydd y diwydiant creadigol yng Nghymru i ymdrin â'r cwestiynau hyn.
Pan ofynnwyd sut mae COVID-19 wedi effeithio ar eu gwaith hunan-gyflogedig, dywedodd 60% o atebwyr bod dim gwaith o gwbl.
Mae fy ngwaith wedi diflannu dros nos o ganlyniad i COVID-19, a dwyf i ddim yn gallu gweld amser yn fuan pan fydd gwasanaeth arferol yn ailgychwyn.
Pan ofynnwyd am eu cymhwysedd, dywedodd 18% nad yw'r cynllun yn eu cynnwys am eu bod yn gofrestredig fel Cwmni Cyfyngedig. Dywedodd 35% nad ydynt yn eithriedig rhag masnachu oherwydd COVID-19. Roedd nifer o weithwyr eraill yn wynebu problemau cymhwysedd oherwydd iddynt gychwyn eu gyrfa lawrydd yn ddiweddar.
Meddai un: "Dechreuais i weithio'n llawrydd yn ddiweddar felly er fy mod wedi gwneud hyn ers blwyddyn, dwyf i ddim yn bodloni'r maen prawf ond does gen i ddim ffordd o wneud yr incwm y byddwn i wedi'i wneud. Dyw'r cynllun ddim fel pe bai'n berthnasol i fi o gwbl."
Roedd mwy na threian yn anghytuno'n gryf bod yr iawndal awgrymedig yn ddigon i wneud yn iawn am eu colledion yn ystod COVID-19, gydag un yn dweud: "Fel gweithiwr llawrydd, rwyf i'n gwario'r rhan fwyaf o fy elw bach ar brynu cyfarpar i fy ngalluogi i weithio. O ganlyniad mae fy "elw" yn fach. Byddai'n decach seilio hyn ar drosiant."
Roedd tua dwy ran o dair o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg yn cytuno y byddai oedi o ran talu yn achosi anawsterau ariannol sylweddol.
Dyw aros 2 fis am arian na fyddaf i efallai'n ei gael ddim yn realistig. Gyda rhent, biliau a bwyd i dalu amdanyn nhw rwyf i'n teimlo na fydd hyn yn helpu a bydd rhaid i fi chwilio am waith fydd yn fy ngosod yng nghanol y feirws, a gallwn i fynd yn sâl a’i drosglwyddo i lawer mwy o bobl. Mae angen mwy o help nawr.
Meddai'r Athro Justin Lewis, un o awduron yr astudiaeth ynghyd â Dr Marlen Komorowski: "Bydd prinder gweithwyr llawrydd yn effeithio ar y sectorau creadigol mewn sawl ffordd. Maent yn rhan annatod o gadwyni cyflenwi - yn enwedig ym maes cynhyrchu ffilmiau a theledu - a gallai’r cadwyni hyn chwalu os oes llai o weithwyr llawrydd.
"Yn y cyd-destun hwn, mae Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig COVID-19 y Llywodraeth yn gefnogaeth i'w groesawu i sector sy'n dibynnu'n helaeth ar weithwyr llawrydd. Serch hynny, mae llawer o weithwyr llawrydd creadigol yn anghymwys ar gyfer y cynllun ac i'r rheini sydd yn gymwys, nid yw cynllun y Llywodraeth yn darparu iawndaliadau digonol ar gyfer gweithwyr ar seibiant."
Mae'r arolwg yn taflu goleuni ar y ffyrdd y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru wynebu'r anghydraddoldebau a nodwyd:
- Dod o hyd i ffyrdd i gynnwys y cyfuniad o waith PAYE ac incwm llawrydd yn y gorffennol wrth asesu cyfartaledd incwm, yn ogystal â'r amser mae'n ei gymryd i adeiladu busnes llawrydd;
- Defnyddio metrigau sy'n cynnwys difidendau incwm gweithwyr llawrydd creadigol sydd yn Gwmnïau Cyfyngedig;
- Defnyddio metrigau sy'n cynnwys y rheini sydd wedi dechrau ar yrfa llawrydd yn ddiweddar.
- Ystyried taliadau cychwynnol ymlaen llaw i helpu dros gyfnod yr oedi wrth asesu.
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho isod.
Os ydych chi'n hunan-gyflogedig ac yn chwilio am ragor o gyngor efallai byddai'r dolenni isod yn ddefnyddiol i chi:
Gwybodaeth i weithwyr creadigol yn ystod COVID-19 Caerdydd Creadigol
Citizens Advice - Helpu pobl yn ystod pandemig COVID-19
IPSE gweithgareddau a chyngor i weithwyr llawrydd
Business Debtline - Cyngor a help Corona Virus