Cynhyrchydd Ymgysylltu

Cyflog
Cynigir y swydd hon fel contract 6 mis ar sail llawrydd. Mae ffi gynhwysol o £2,500 ar gael.
Location
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio o bell, yn ogystal â gweithio yn ein lleoedd partner.
Oriau
Part time
Closing date
16.09.2025
Profile picture for user Artes Mundi

Postiwyd gan: Artes Mundi

Dyddiad: 26 August 2025

Bydd pob un o’r chwe Chynhyrchydd Ymgysylltu yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chanlyniadau ar gyfer Artes Mundi 11. Fel ffordd o ganfod a strwythuro’r agwedd hon ar ein rhaglenni cyhoeddus cyffredinol, bydd pob Cynhyrchydd Ymgysylltu’n cael ei neilltuo i gynnal ymchwil manwl i un o artistiaid Artes Mundi 11 sydd ar y rhestr fer. Fel rhwydwaith, ac ar y cyd â gweddill tȋm Artes Mundi, byddwch yn canfod elfennau cyffredin a chysylltiadau thematig rhwng gwaith a dulliau’r artistiaid ar y rhestr fer, gan greu cronfa hael  ac eang o adnoddau a gweithgareddau creadigol ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Bydd y Cynhyrchwyr Ymgysylltu’n frwdfrydig am ddiwylliant a syniadaeth ysbrydoledig, cynhwysol a chreadigol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y rheiny sydd ag ymagwedd ddychmygus a hyblyg tuag at gyrraedd canlyniadau ardderchog. Mae’r rôl yn gofyn am y gallu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chyfleu syniadau cymhleth yn glir drwy sgwrsio a chreu.

Does dim rhaid i chi fod ag unrhyw gymwysterau neu brofiad gwaith penodol i fod yn gymwys ar gyfer y rôl yma. Fodd bynnag, yn sgil y cyfrifoldebau a’r tasgau sydd i’w gwneud, byddem yn hoffi clywed gan y sawl sydd â phrofiad drwy addysg, cyflogaeth flaenorol neu brofiadau bywyd penodol megis artistiaid, ymchwilwyr neu ymarferwyr creadigol o bob disgyblaeth, profiad neu lefel gyrfa.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.